Neidio i’r prif gynnwys

Cerddorion Ifanc

P’un a yw cerddoriaeth yn ddiddordeb mawr yr hoffech ei ddysgu’n dda iawn, neu eich bod yn gosod y sylfeini ar gyfer gyrfa bosibl ym maes cerddoriaeth, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich dyheadau a grymuso eich taith gerddorol.

Cwricwlwm sy’n herio, yn ysbrydoli ac yn tanio chwilfrydedd

Bydd eich cwrs yn cael ei ddarparu yn amgylchedd o radd flaenaf Conservatoire Cenedlaethol Cymru, yng nghanol Caerdydd. Mae ein tîm croesawgar a chefnogol o addysgwyr, perfformwyr, cyfansoddwyr a rheolwyr cerddoriaeth blaenllaw yn edrych ymlaen at ddod i’ch adnabod a’ch helpu i gyflawni eich nodau cerddorol, beth bynnag ydynt.

Mae ein cyrsiau dydd Sadwrn ar gyfer dysgwyr rhwng 4 a 18 oed. Caiff y cwricwlwm newydd ei lansio ym mis Medi 2023 ac mae’n rhannu elfennau gyda’r Cwricwlwm i Gymru a graddau cerddoriaeth CBCDC, gan ddarparu llif o ddysgu a all fynd â chi o’ch camau cerddorol cyntaf yr holl ffordd i fynediad i gonservatoire a thu hwnt.

Gall dysgwyr ymuno neu adael y continwwm hwn ar unrhyw adeg, yn amodol ar y meini prawf mynediad arferol a’r telerau ac amodau cyffredinol.


Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf