Neidio i’r prif gynnwys

Drama

Drama CBCDC yn cynnig yr hyfforddiant gorau oll i actorion, artistiaid cynhyrchu a gwneuthurwyr theatr ar gyfer pobl ifanc 7-20 oed.

Amdano’r cwrs


Mae ein cyrsiau a'n gweithdai yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael cipolwg go iawn ar yr hyfforddiant a ddarperir gan ysgolion drama.

Rydym yn falch iawn o'n hathrawon, ac mae ein myfyrwyr yn elwa o'u harbenigedd ym myd ffilm, teledu a theatr. Mae ein staff yn gweithio mewn sefydliadau celfyddydol gan gynnwys Theatr Genedlaethol, BBC, Royal Shakespeare Company ac amrywiaeth o gwmnïau ffilm a theledu.

Ar gyfer pwy mae’r cyrsiau?

Cwmni Ieuenctid Richard Burton (CIRB) yw'r rhaglen hyfforddi a theatr ieuenctid flaenllaw newydd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer bobl ifanc rhwng 17 a 20 oed. Mynediad trwy glyweliad.

Actorion Ifanc CBCDC – i bobl ifanc rhwng 7-20 oed sydd ag angerdd am y theatr ac sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau drama a phrofiad o weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Agor i bawb.

Celfyddydau Cynhyrchu Ifanc CBCDC - Wedi'i anelu at bobl ifanc 11-18 oed, mae ein cyrsiau a'n dosbarthiadau meistr wedi'u cynllunio i gael cipolwg go iawn ar hyfforddiant ysgolion drama a'r diwydiannau ehangach 'cefn llwyfan'. Cyflwynir dosbarthiadau arbenigol gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol, mewn sgiliau gan gynnwys goleuadau, sain, rheoli llwyfan, gwneud propiau, dylunio gwisgoedd a setiau.

'Rhoddodd y gwersi gipolwg i mi o'r hyn a ddisgwylid gennyf i, techneg clyweliadau rhannol.Fe wnaeth hyn fy helpu i weithio ar fy monologau a'r hyn a ddisgwylid mewn clyweliadau a hefyd dangos i mi faint o hwyl y gall ysgol ddrama fod.'
Rithvik AndugulaActor Ifanc

Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf