Neidio i’r prif gynnwys

Cefnogi’r Coleg a’n myfyrwyr

Mae'r ffrindiau gorau, Babs Thomas a Betsan Roberts, wedi bod yn ffrindiau da i CBCDC ers blynyddoedd lawer. Buont yn siarad â ni am yr hyn y mae'n ei olygu iddynt i gefnogi'r Coleg i hyfforddi artistiaid y dyfodol.

Babs Thomas a Betsan Roberts

Fe wnaeth Babs a Betsan gyfarfod trwy ffrind ar ddiwedd y 1960au pan oedd Betsan yn astudio actio yn CBCDC yn ei gartref cyntaf yng Nghastell Caerdydd. Maen nhw wedi bod yn dod i weld ein myfyrwyr yn perfformio gyda’i gilydd ers hynny, ac wedi bod yn cefnogi’r Coleg ers blynyddoedd lawer.

Trwy eu cefnogaeth flynyddol mae Babs a Betsan yn helpu’r Coleg i greu profiad dysgu anhygoel i’r myfyrwyr fel y gallent adael y Coleg yn barod i ymuno â'r diwydiant proffesiynol. 

Yn ogystal â chefnogi myfyrwyr yn hael trwy gynlluniau aelodaeth Cyswllt a Chylch y Cadeiryddion, maent hefyd wedi enwi sedd yr un yn Theatr Richard Burton y Coleg yn ogystal ag un er cof am y ffrind a ddaeth â nhw ynghyd.

Mae aelodau Cyswllt yn cefnogi cyfleoedd perfformio cyhoeddus y myfyrwyr. Mae’r fyfyrwraig, Niamh Pragnell Toal, yn myfyrio ar ei phrofiad o fod yng nghynhyrchiad diweddar y Coleg o Dialogues of the Carmelites:

'Dyma fy mhrofiad cyntaf o fod mewn opera ac mae'n sicr wedi cael effaith ar bwy ydw i fel cerddor. Fe wnaeth y stori hyfryd fy nharo’n fawr gan fy annog i edrych yn fwy i gyd-destun fy ngherddoriaeth er mwyn gallu ei chyfieithu’n well ar y llwyfan. Heb y cyfle gwych hwn ni fyddwn wedi gallu datblygu'n bersonol a gwella fy sgiliau cerddoriaeth. Rhoddodd natur broffesiynol y cynhyrchiad fewnwelediad gwirioneddol i mi o sut mae’r diwydiant yn gweithio a gwnaeth fi hyd yn oed yn fwy cyffrous ar gyfer yr yrfa sydd o’m blaen.'
Niamh Pragnell ToalMyfyriwr
‘Mae rhywbeth hudolus am wylio pobl ifanc yn perfformio. Chefais i erioed y cyfle i actio pan oeddwn yn yr ysgol, a dyna pam 'dw i wrth fy modd yn dod yma gymaint. Mae gweld y myfyrwyr hyn yn llwyddo i wneud rhywbeth maen nhw’n ei garu’n fawr, a gallu eu cefnogi ar eu taith yn hollbwysig i mi.’
Babs Thomas

Ymwelwyr â'r Coleg

Yn ogystal â chefnogi ein myfyrwyr yn ddyngarol, mae Babs a Betsan hefyd yn ymwelwyr cyson â chynyrchiadau’r Coleg, yn enwedig y sioeau drama a gynhelir gan Gwmni Richard Burton o dan arweiniad myfyrwyr y Coleg.

Eu hoff ddrama'r llynedd oedd ‘The 39 Steps’, drama ddoniol ac egnïol o’r ffilm glasurol a berfformiwyd gan gast bach ond aml-dalentog. Mae Betsan hefyd yn mwynhau’r tymor NEWYDD blynyddol, sy’n cynnwys dramâu a gomisiynwyd yn arbennig, gan gydweithio gyda dramodwyr a chyfarwyddwyr gorau’r DU, sy’n cael eu dangos am y tro cyntaf yng Nghaerdydd a Llundain.

‘Mae’r sioeau NEWYDD yn wych. Fel aelod Cyswllt, cefais wahoddiad i fynychu’r cyfarfod tu ôl i’r llenni gyda’r holl ddylunwyr ac awduron cyn iddynt ddechrau ymarferion. Roedd hi mor ddiddorol gweld sut wnaethon nhw eu rhoi at ei gilydd o’r dechrau i’r diwedd.'

'Mae'r Coleg yn lle bendigedig. Rwy’n dal i gael cyfarfodydd Zoom wythnosol gyda fy ffrindiau a oedd yn fyfyrwyr yma hefyd, ac mae Babs a minnau’n dod yma am baned o goffi a sgwrs, weithiau pan nad oes gennym sioe i fynd iddi!’
Betsan Roberts

Archwilio’r adran