Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Matt French

Rôl y swydd: Tiwtor Cit Drymiau

Adran: Offerynnau taro

Bywgraffiad Byr

Astudiodd Matt yn y Coleg Cerdd Brenhinol, lle y dyfarnwyd Gwobr Offerynnau Taro Sabian iddo wrth raddio. Cafodd ei dderbyn wedyn ar Ysgoloriaeth Archer, lle y chwaraeodd gyda Bobby Lamb’s Trinity Big Band.

Ers gadael y Coleg Cerdd Brenhinol, mae Matt wedi mwynhau gyrfa amrywiol gan gynnwys chwarae gyda llawer o gerddorfeydd fel Orchestra of The Royal Opera House, London Philharmonic Orchestra, BBC Concert Orchestra, City of Birmingham Symphony Orchestra, Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, Ulster Orchestra, RTE Symphony Orchestra a’r Royal Scottish National Orchestra. Yn ychwanegol at ei waith cerddorfaol, mae Matt wedi chwarae ar nifer helaeth o sioeau cerdd ar daith ac yn y West End yn Llundain.

O ganlyniad i’w yrfa chwarae helaeth, mae Matt wedi magu llawer iawn o sgiliau y mae’n teimlo sy’n hanfodol i’r chwaraewr cit drymiau proffesiynol, a dyma’r sgiliau y gall Matt eu cynnig wrth addysgu.

Arbenigedd

Yn ei rôl fel addysgwr, Matt yw athro cit drymiau Adran Iau y Coleg Cerdd Brenhinol. Mae hefyd wedi rhoi dosbarthiadau yn Trinity Laban School of Music and Dance ac wedi tiwtora’r National Youth Percussion Ensemble. Mae dull Matt o addysgu’r cit drymiau yn seiliedig yn llwyr ar anghenion yr unigolyn. Ar ôl asesu hyn, mae gan Matt gyfoeth o brofiad a deunydd o sefyllfaoedd chwarae yn y byd go iawn, ac yn defnyddio’r rhain i deilwra’r gwersi.

Cyflawniadau Nodedig

Mae Matt wedi rhoi gwersi i’r Royal Marines ac wedi bod yn rhan o sawl prosiect addysg ar raddfa fawr, gan gynnwys sawl digwyddiad ‘Big Bash’ Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle y rhoddodd ddosbarthiadau grŵp. Roedd Matt hefyd yn rhan o’r gwaith cychwynnol ar adran offerynnau taro Seremoni Agoriadol y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Proffiliau staff eraill