Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Antigone (Tiggy) Blackwell

Rôl y swydd: Llywydd Undeb y Myfyrwyr

Helo, Antigone ydw i, ond mae pawb yn fy ngalw i’n Tiggy.

Fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr, rwy’n rheoli Pwyllgor Gwaith Undeb y Myfyrwyr, yn mynychu cynadleddau, ac yn cynrychioli’r corff myfyrwyr mewn cyfarfodydd staff. Rydw i hefyd yn gyfrifol am drefnu gweithgareddau cymdeithasol yr Undeb.

Cyn camu i’r rôl hon ym mis Awst 2024, roeddwn wedi graddio gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o’r cwrs BMus (Jazz) fel chwaraewr trombôn.

Fi oedd derbynnydd cyntaf Gwobr Jazz Anjool Malde ac enillydd medal arian Cwmni’r Cerddorion yn CBCDC yn 2024.

Fel chwaraewr trombôn jazz proffesiynol brysur yn sin gerddoriaeth y DU, rwy’n chwarae amrywiaeth o arddulliau ar gyfer digwyddiadau gan gynnwys gwyliau, achlysuron arbennig, ac mewn clybiau jazz. Rydw i wedi cael y pleser o chwarae gyda sawl band ac artist llwyddiannus, gan gynnwys YolanDa Brown, Dennis Rollins, Afro Cluster, Cerddorfa Jazz Capital City, a The Navarones. Rydw i hefyd wedi recordio albwm ac wedi teithio Cymru a Lloegr gyda’r band jazz wyth darn, The Mingus Project.

Antigone.Blackwell2020@rwcmd.ac.uk

Proffiliau staff eraill