StoriGwobr Opera Janet Price 2023Enillydd Gwobr Opera Janet Price eleni yw’r fyfyrwraig MA Perfformio Opera blwyddyn gyntaf, Weiying Sim. Yn ogystal â gwobr ariannol, mae hi eleni hefyd yn ennill cyfle i ganu mewn cyngerdd yn Llundain diolch i garedigrwydd partner y Coleg, Opera Rara.
pageSut i ymgeisioMae ymgeisio i'r Coleg yn dibynnu ar y cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo. Rydym yn derbyn ceisiadau drwy Acceptd neu UCAS Conservatoires . Mae canllawiau manwl ar dudalen pob cwrs.
AdranGitâr: CyrsiauDeffrowch eich creadigrwydd a’ch chwilfrydedd cerddorol i ddod yn gitarydd amryddawn gyda hunaniaeth artistig bwerus a’r sgiliau i ffynnu yn y byd proffesiynol presennol.
AdranY Delyn: CyrsiauGyda hyfforddiant o safon fyd-eang ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i berfformio, byddwch yn meithrin yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu fel telynor proffesiynol.
AdranPerfformio hanesyddol: CyrsiauMae dull hanesyddol wybodus ar gyfer gwahanol arddulliau cerddorol yn hanfodol ar gyfer pob cerddor sy’n ymuno â’r proffesiwn heddiw. Mae myfyrwyr CBCDC yn elwa gan hyfforddiant a mentora sy’n hyrwyddo ac yn datblygu dealltwriaeth ymarferol o arddulliau perfformio o gyfnod y Dadeni i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg drwy raglen astudio gynhwysfawr o’r radd flaenaf.
AdranJazz: CyrsiauTrochwch eich hun mewn hyfforddiant proffesiynol wedi’i deilwra gyda rhai o gerddorion jazz gorau’r DU. Byddwch yn astudio mewn grwpiau bach ac yn cael cyfleoedd dihafal i berfformio a dod yn rhan o sîn jazz ffyniannus.
AdranPiano: CyrsiauCloddiwch i gwricwlwm trwyadl sy’n cynnig meistrolaeth ar dechneg yr allweddellau, cyfleoedd i berfformio a chydweithio, yn ogystal â’r sgiliau ymarferol i lwyddo yn y diwydiant cerddoriaeth heddiw.
AdranOfferynnau taro: CyrsiauGwthiwch eich ffiniau gyda hyfforddiant dwys a arweinir gan arbenigwyr mewn chwarae unawdol, cerddorfaol ac ensemble sy’n ennyn ysbryd creadigol a chydweithredol. Ethos canolog yr adran yw ysbryd tîm, undod a chydweithio, gan weithio ochr yn ochr â’r athrawon fel cydweithwyr proffesiynol.
AdranLlinynnau: CyrsiauManteisiwch ar amrywiaeth eang o gyfleoedd i berfformio, cydweithio ac arbrofi – y cyfan mewn amgylchedd dysgu cefnogol sy’n meithrin eich sgiliau proffesiynol a’ch dychymyg, i’ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth.