

Gwybodaeth archebu
Gwybodaeth am eich tocynnau, archebion, consesiynau a thalebau rhodd.
Archebwch docynnau ar-lein
Swyddfa Docynnau oriau agor
Oriau agor:
Dydd Llun hyd ddydd Gwener
9.30am – 4.30pm
Ar nosweithiau pan gynhelir perfformiadau, bydd y Swyddfa Docynnau yn parhau ar agor am hyd at 30 munud wedi dechrau’r perfformiad olaf. Os cynhelir perfformiad ar naill ai Ddydd Sadwrn neu Ddydd Sul, bydd y Swyddfa Docynnau yn agor 1 awr cyn dechrau’r perfformiad hwnnw. Mae’r Swyddfa Docynnau wedi ei lleoli yn y prif gyntedd.
Archebwch docynnau dros y ffôn
Os yw’r llinell yn brysur, neu os ydym ar gau, gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Anfonir tocynnau drwy e-bost a gellir eu hychwanegu at eich Apple Wallet neu Google Wallet neu eu hargraffu gartref. (Rydym yn awgrymu eich bod yn lawrlwytho'ch tocynnau i'ch dyfais cyn eich ymweliad.)
Gwybodaeth tocyn
Cynhigion tocyn
Talebau rhodd
Bydd pawb yn mwynhau noson allan, sy’n gwneud ein Talebau Rhodd yn anrheg perffaith i aelodau teulu a ffrindiau. Maent ar gael mewn unrhyw symiau, holwch yn y Swyddfa Docynnau am ragor o wybodaeth.