Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Jazz

Claire Martin gyda Thriawd Martin Sjöstedt

Tocynnau: £9-£18

Gwybodaeth

Bydd y gantores jazz adnabyddus, Claire Martin OBE, yn aduno â’i thriawd dawnus o Sweden, dan arweiniad y pianydd a’r trefnydd eithriadol Martin Sjöstedt, wrth iddynt gyflwyno lansiad Cymru o’u halbwm diweddaraf ‘Almost in Your Arms’ (Stunt Records). Mae’r cyngerdd hwn yn addo taith gerddorol ryfeddol sy’n asio’n ddi-dor ganeuon safonol jazz clasurol, fel y trac teitl i’r ffilm ‘Houseboat’, gyda chaneuon cyfoes gan rai megis Elvis Costello, Rufus Wainwright a Mark Winkler.

Claire Martin llais
Martin Sjöstedt piano
Niklas Fernqvist bas dwbl
Daniel Fredriksson drymiau

“Un o gantorion jazz presennol gorau’r byd”
Jazz Journal

Digwyddiadau eraill cyn bo hir