Diwrnodau agored
Diwrnod Agored Jazz 2024
Darllen mwy
Jazz
Iau 6 Mehefin 7.30pm
£8-£16
Tocynnau: £8-£16
Bydd y sacsoffonydd gwobrwyedig Binker Golding yn dod â’i bedwarawd, sy’n cynnwys goreuon y sîn jazz yn Llundain, i Gaerdydd am y tro cyntaf gyda set newydd o gerddoriaeth yn seiliedig ar ei albwm sydd eto i’w enwi a gyhoeddir yn 2024. Byddwch yn barod i glywed jazz wedi’i ddylanwadu gan y felan, gwerin ac Americana, ac sy’n dilyn ei albwm clodwiw yn 2022, ‘Dream Like a Dogwood Wild Boy’.
Binker Golding sacsoffon tenor
Billy Adamson gitâr
Daniel Casimir bas dwbl
Jamie Murray drymiau