Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cyrsiau o A i Y

MA Rheolaeth yn y Celfyddydau

Ewch ati i ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa lwyddiannus yn y sector creadigol, ynghyd â dau leoliad gwaith, yn ein cwrs dan arweiniad y diwydiant.
Rhagor o wybodaeth

MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau

Gyda hyfforddiant gan arbenigwyr yn y diwydiant a phedwar lleoliad gwaith, mae’r cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio ym myd cynhyrchu ffilmiau, digwyddiadau byw, theatr a theledu.
Rhagor o wybodaeth

MA Theatr Gerddorol

Gyda’n cwrs sy’n cyfuno dosbarthiadau actio a dawns â gwersi canu un i un a rolau mewn dau berfformiad cyhoeddus, byddwch yn cwrdd â gofynion y diwydiant y dyddiau hyn.
Rhagor o wybodaeth

MMus Arwain Band Pres

Dewch i ennill yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ymgymryd â rôl arweinydd bandiau pres yn hyderus, ynghyd â chyfleoedd i arwain drwy gydol eich astudiaethau.
Rhagor o wybodaeth

MMus Arwain Cerddorfaol

Mae hyfforddiant un i un arbenigol, profiad arwain ymarferol a chysylltiadau â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn rhan ganolog o’r cwrs meistr arloesol hwn.
Rhagor o wybodaeth

MMus Arwain Corawl

Gosodwch y sylfaen ar gyfer gyrfa lwyddiannus gyda’n cwrs sy’n cyfuno cyfleoedd arwain corawl a hyfforddiant llais arbenigol.
Rhagor o wybodaeth

MMus Cyfansoddi

Cyfle i archwilio dulliau ac arddulliau cyfansoddi amrywiol, gyda nifer o gyfleoedd i weithio ar ein cynyrchiadau drama a chydweithio â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Rhagor o wybodaeth

MMus Cyfansoddwr-Perfformiwr

Astudiwch ddau arbenigedd ar y lefel uchaf, gan gyfansoddi gwaith creadigol arloesol ochr yn ochr â hyfforddiant perfformio gyda rhai o ymarferwyr gorau’r diwydiant.
Rhagor o wybodaeth

MMus Perfformio Cerddorfaol

Ymunwch â hyfforddiant arbenigol a thrylwyr gyda cherddorion cerddorfaol proffesiynol, ochr yn ochr â chynlluniau mentora a lleoliadau gyda cherddorfeydd cenedlaethol.
Rhagor o wybodaeth

MMus Perfformio Cerddoriaeth

Datblygwch yrfa rydych chi’n ei mwynhau gyda’n cwrs sy’n cynnig hyfforddiant arbenigol a nifer o gyfleoedd perfformio i gantorion ac offerynwyr.
Rhagor o wybodaeth

MMus Perfformio Cerddoriaeth Siambr

Gyda’n cwrs cydweithredol sy’n cael ei arwain gan y diwydiant, byddwch yn datblygu’r holl sgiliau ymarferol, creadigol ac artistig sy’n angenrheidiol ar gyfer gyrfa fel cerddor siambr.
Rhagor o wybodaeth

MMus Perfformio Chwythbrennau Aml-offeryn

Dysgwch berfformio’n hyderus gydag amrywiaeth o offerynnau chwyth mewn lleoliad theatr gerdd, gydag arbenigwyr yn y diwydiant a cherddorion arbenigol i’ch arwain.
Rhagor o wybodaeth

MMus Perfformio Hanesyddol

Dewch i ddarganfod amrywiaeth eang o arddulliau perfformio, o’r Dadeni i’r 19eg ganrif, yn ein hyfforddiant cynhwysfawr o’r radd flaenaf ar gyfer cantorion ac offerynwyr.
Rhagor o wybodaeth

MMus Piano Cydweithredol

Dewch i gael hyfforddiant arbenigol gyda phianyddion proffesiynol wrth i chi weithio ochr yn ochr â phartneriaid cerddorol mewn detholiad amrywiol a chyffrous o berfformiadau ensemble.
Rhagor o wybodaeth

MMus Ymarfer Creadigol Cydweithredol

Lluniwch waith newydd cyffrous gyda chyd-artistiaid cydweithredol yn ein cwrs sy’n cyfuno hyfforddiant arbenigol mewn drama a cherddoriaeth.
Rhagor o wybodaeth