

MA Perfformio Opera Uwch
Dyfarniad:
MA Perfformio Opera Uwch
Corff dyfarnu:
Prifysgol De Cymru
Lleoliad astudio:
Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)
Dyddiad dechrau:
22 Medi 2024
Hyd:
2 flynedd llawn amser
Cod y cwrs:
752F - UCAS Conservatoires
Cyflwyniad
Gyda’n cwrs dan arweiniad y diwydiant, sy’n cyfuno hyfforddiant arbenigol â chyfleoedd perfformio amrywiol, byddwch yn gwybod sut mae bodloni gofynion cwmnïau opera proffesiynol y dyddiau hyn.
Trosolwg o’r cwrs
Yn y rhaglen uwch hon, sy’n cael ei chreu ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru, byddwch yn cael cyfuniad trylwyr o hyfforddiant unigol, dosbarthiadau arbenigol a nifer o gyfleoedd perfformio mewn amrywiaeth o leoliadau.
Mae eich rhaglen astudio yn cynnwys gwersi canu un i un a hyfforddiant repertoire gyda thiwtoriaid sy’n gantorion a hyfforddwyr proffesiynol amlwg.
Byddwch yn cydbwyso hyn â dosbarthiadau mewn crefftau llwyfan, sgiliau dramatig a dehongli, a’r prif ieithoedd operatig (Eidaleg, Ffrangeg ac Almaeneg). Mae hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau proffesiynol a chyflogadwyedd hefyd yn chwarae rhan yn eich hyfforddiant.
Fodd bynnag, perfformio yw sylfaen eich cyfnod yma. Byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau ensemble a chyflwyniadau golygfeydd opera, ond bydd y rhan fwyaf o’ch astudiaeth yn canolbwyntio ar berfformio’n gyhoeddus mewn opera sydd wedi’i llwyfannu’n llawn, sy’n cynnwys cyfnodau o baratoi ac ymarfer dwys.
Diolch i’n cysylltiadau cryf â’r diwydiant, byddwch yn ymgolli mewn amgylchedd cwmni operatig proffesiynol o ddechrau eich cwrs – mae’r rhain yn cynnwys cyfleoedd i gysgodi ac arsylwi ar ymarferion stiwdio dethol Opera Cenedlaethol Cymru.
Drwy amrywiaeth o ddulliau addysgu mewn lleoliad conservatoire ysbrydoledig, byddwch yn meistroli’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant heddiw.
Pam astudio’r cwrs hwn?
- Mae’n cynnwys cyfuniad o ddulliau addysgu sy’n cyfoethogi eich sgiliau arbenigol, gan eich gwneud yn fwy cyflogadwy hefyd – hyfforddiant un i un, hyfforddiant, gwaith grŵp, tiwtorialau, darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau ymarferol a gweithdai.
- Ni fydd eich rhaglen astudio yn glynu wrth unrhyw un fethodoleg neu athroniaeth – yn hytrach, mae’n dod â llawer o ddylanwadau a dulliau at eich gwaith er mwyn i chi allu magu hyder wrth nodi a deall eich gweledigaeth artistig eich hun.
- Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys unawdwyr lleisiol adnabyddus a hyfforddwyr nodedig. Maent yn eich mentora ac yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio i chi, yn ogystal ag addysg o’r radd flaenaf.
- Mae ein partneriaethau â’r diwydiant yn cynnig cyfleoedd i chi gysgodi ac arsylwi ar ymarferion stiwdio dethol Opera Cenedlaethol Cymru. Bydd hyn yn eich helpu i greu rhwydwaith o gysylltiadau, yn ogystal â’ch helpu i ddatblygu dealltwriaeth ddofn o sut mae’r diwydiant yn gweithredu.
- Byddwch yn cydbwyso eich hyfforddiant unigol â dosbarthiadau cwbl integredig mewn crefftau llwyfan, sy’n cynnwys symud a dawnsio, a hyfforddiant mewn sgiliau dramatig a dehongli. Byddwch hefyd yn cael dosbarthiadau yn y prif ieithoedd operatig – Eidaleg, Ffrangeg ac Almaeneg.
- Mae perfformio’n hanfodol i’ch hyfforddiant, a byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau ensemble, perfformiadau amrywiol a chyflwyniadau golygfeydd opera – gan gynnwys gwaith Baróc a gwaith cyfoes yn ogystal â repertoire safonol – i fireinio’r sgiliau hyn.
- Uchafbwynt eich astudiaeth yw astudio’n fanwl a pharatoi ar gyfer rôl operatig gyflawn i’w chyflwyno mewn clyweliad a sesiwn waith sy’n cyfateb i rôl broffesiynol. Pennaeth cerddoriaeth o un o brif gwmnïau opera’r DU sy’n asesu hyn fel arfer.
- Byddwch yn dysgu arferion gweithio operatig proffesiynol gyda chyfarwyddwyr a répétiteurs proffesiynol, gan roi cipolwg i chi ar sut mae’r diwydiant yn gweithio a’ch helpu i gael ymwybyddiaeth o’r amgylchedd operatig.
- Bydd y rhaglen astudio o’ch dewis yn eich helpu i feithrin y sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnoch i wneud penderfyniadau effeithiol ynghylch repertoire addas a dewis rôl ar gyfer clyweliadau proffesiynol.
- Byddwch yn cael dosbarthiadau sy’n canolbwyntio ar arferion proffesiynol a phrotocol opera, gan eich helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth o arferion gweithio cydweithredol.
- Byddwch hefyd yn cael hyfforddiant dwys mewn technegau clyweliad, yn ogystal â seminarau cyflogadwyedd sy’n canolbwyntio ar y sgiliau proffesiynol sydd eu hangen arnoch i lwyddo mewn gyrfa bortffolio – fel y rheini sy’n ymwneud â chyllid a’r cyfryngau cymdeithasol.
Gwybodaeth arall am y cwrs
Gwybod mwy am astudio opera yn CBCDC

Opera

Pobl

Storïau
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy