Y rhodd o gyfle
Mae gwneud rhodd er mwyn cynnig cymorth ariannol uniongyrchol i fyfyrwyr – drwy ysgoloriaethau, bwrsariaethau a’n Cronfa Caledi Myfyrwyr – yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol a gwerth chweil i chi ein helpu i ehangu ein hyfforddiant, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn ein sector a meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr creadigol a diwylliannol.
Gallwch ein helpu i ddarparu cefnogaeth yn y ffyrdd canlynol:
-
Ysgoloriaethau
Mae cyfoeth ac egni’r celfyddydau perfformio yn ddibynnol ar sicrhau bod pobl ifanc eithriadol ddawnus o gefndiroedd amrywiol yn cael y cyfle i ddatblygu, mynegi a chyfrannu eu lleisiau creadigol. Mae ysgoloriaethau yn ein galluogi i gynnig lleoedd i’r bobl ifanc mwyaf addawol y byddwn yn dod ar eu traws ac yn chwilio amdanynt, yn seiliedig ar deilyngdod waeth beth fo unrhyw anfanteision y byddant o bosibl yn eu hwynebu.
Gall rhoddwyr ysgoloriaethau ddewis rhoi i fyfyrwyr gradd neu ôl-radd a phenderfynu a ydynt am gefnogi ymgeisydd o Gymru, y DU neu un rhyngwladol. Gellir hefyd gwneud cysylltiadau i feysydd astudio penodol.
Gall rhoi ysgoloriaeth – yn flynyddol neu drwy rodd gwaddol – fod yn ffordd hynod werth chweil i gefnogi a dilyn cynnydd artist ifanc a gellir enwi gwobrau ar gyfer rhoddwyr byw neu “er cof”.
Ar hyn o bryd rydym yn ceisio sicrhau ysgoloriaethau newydd sy’n helpu:
- Myfyrwyr sydd â nodweddion gwarchodedig gyda phwyslais penodol ar hil, rhyw ac anabledd
- Y rheini sy’n astudio’r basŵn, corn Ffrengig, fiola, bas dwbl, ac obo
- Myfyrwyr sydd ag anghenion ariannol
Fel rhan o’n hymgyrch Addewid uchelgeisiol, rydym wedi addo dyblu nifer yr ysgoloriaethau a godwn gan unigolion, busnesau ac ymddiriedolaethau.
Os hoffech drafod ariannu ysgoloriaeth ymhellach, cysylltwch â: marie.wood@rwcmd.ac.uk neu sara.west@rwcmd.ac.uk.
-
Bwrsariaethau
Fel rhan o’n penderfyniad i alluogi’r mynediad ehangaf posibl at ein hyfforddiant, rydym wedi gwneud addewid i ddarparu bwrsariaeth flynyddol gwerth hyd at £1,200 i bob myfyriwr gradd newydd y mae incwm eu haelwyd yn llai na £30K y flwyddyn, o flwyddyn academaidd 2021/22. Rydym yn rhagweld y bydd dros 25% o’n myfyrwyr newydd bob blwyddyn yn gymwys ac felly rydym yn gweithio’n galed i godi’r £500,000 fydd ei angen arnom er mwyn ei gwneud hi’n bosibl i ni roi cefnogaeth i bob myfyriwr sydd ei hangen dros y 5 mlynedd nesaf. Bydd rhoddion o unrhyw faint – gan fusnesau, ymddiriedolaethau ac unigolion – yn ogystal â rhoddion gwaddol mawr, yn hollbwysig i’n galluogi i gyflawni ein haddewid.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfrannu at ein Cronfa Bwrsariaeth, cysylltwch â: development@rwcmd.ac.uk.
Cyfrannwch Nawr
Swm i’w Cyfrannu £
-
Caledi Myfyrwyr
Mewn ymateb i Argyfwng Covid yn 2020, lansiodd CBCDC Apêl Arbennig i godi cyfraniadau ychwanegol oedd eu hangen ar frys ar gyfer ein Cronfa Caledi Myfyrwyr. Cawsom ein llorio gan haelioni ein cyfeillion a’n cefnogwyr a wnaeth ein galluogi i ddarparu cymorth yn gyflym i’r myfyrwyr hynny oedd fwyaf bregus.
Mae’n amlwg y bydd goblygiadau hirdymor wedi Covid ar gyfer nifer o’n myfyrwyr a fydd yn parhau i gael anawsterau ac yn wynebu heriau ariannol ac ymarferol.
Helpwch ni i dyfu’r Gronfa Caledi Myfyrwyr fel y gallwn gyda’n gilydd sicrhau bod cymorth brys ar gael i’r holl fyfyrwyr presennol a rhai’r dyfodol pan fyddant fwyaf ei angen.
Cyfrannwch Nawr
Swm i’w Cyfrannu £
Bydd pob cyfraniad i’r Gronfa Bwrsariaeth yn ystod blwyddyn academaidd 2021-22 yn cael ei gyfateb gan Sefydliad Mosawi, gan ddyblu gwerth ac effaith eich rhodd.