Neidio i’r prif gynnwys

Cymorth Corfforaethol

Fel menter busnes creadigol sylweddol ei hun, mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn awyddus i bartneru ag eraill sy'n rhannu ei weledigaeth ac yn cyd-fynd â'i werthoedd. Gan fanteisio ar staff arbenigol a chymuned o fyfyrwyr sy'n grewyr ifanc gwych, llawn dychymyg a gweledigaeth, rydym mewn sefyllfa dda i gynnig darpariaeth bwrpasol a gwreiddiol i sicrhau ein bod yn eich helpu i gyflawni eich amcanion busnes.

Buddion i’ch busnes

Yn gyfnewid am fuddsoddiad gallwn ddarparu buddion masnachol gan gynnwys datblygiad brand, marchnata a chyfleoedd proffilio, profiadau cofiadwy i gleientiaid, gweithgareddau ar gyfer ymgysylltu a lles staff, yn ogystal â mentrau sy’n cynorthwyo i fodloni amcanion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol pwysig.

Beth ddywed ein partneriaid

'Mae ein partneriaeth â Choleg Brenhinol Cymru wedi dod yn esiampl o sut y gall busnes weithio gyda sefydliadau celfyddydol er budd pawb. Mae nawdd Valero o’r Stiwdio Actorion Ifanc yng Ngorllewin Cymru wedi bod yn ffordd hynod effeithiol o ddangos ei ymrwymiad i'r gymuned leol.'
Stephen ThorntonRheolwr PGPA yn Valero
'Rwy’n ddiolchgar iawn i fod yn dderbynnydd ysgoloriaeth Bad Wolf sydd wedi fy ngalluogi i brofi llawer o ddigwyddiadau a gweithdai na fyddwn wedi cael mynediad atynt fel arall. Mae gwybod bod gennyf gefnogaeth ariannol ychwanegol gan yr ysgoloriaeth wedi caniatáu i mi fwynhau fy amser yn y Coleg yn llawer mwy nag y byddwn pe na bai gennyf yr ysgoloriaeth. Diolch am roi’r cyfle hwn i mi.'
Night AkterYsgolor Amrywiaeth Bad Wolf 2022/23

Archwilio’r adran