Neidio i’r prif gynnwys

Cymynroddion

Drwy gofio Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn eich ewyllys, byddwch yn gadael anrheg barhaol a fydd yn helpu myfyrwyr y dyfodol i wireddu eu potensial ac a fydd o fudd i’n diwydiant creadigol am genedlaethau i ddod.

Mae’r Coleg angen cymynroddion

Rydym eisiau sicrhau bod y Coleg yn parhau i ffynnu a chynnig yr hyfforddiant gorau a’r cyfleoedd mwyaf aruthrol i’r bobl ifanc dawnus sy’n astudio gyda ni. Gadael rhodd i’r Coleg yn eich Ewyllys yw un o’r pethau pwysicaf a mwyaf gwerthfawr y gallwch ei wneud er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni hyn. Gyda’n gilydd gallwn gynorthwyo myfyrwyr i wireddu eu potensial, datblygu eu llwybrau gyrfaol penodol ac, wrth iddynt raddio, i wneud eu cyfraniad unigol eu hunain i’r celfyddydau perfformio yn unrhyw le yn y byd. Gall rhoi er cof am rywun hefyd fod yn ffordd werth chweil i gofio am anwyliaid, tra’n cefnogi cenedlaethau’r dyfodol o dalentau artistig.

Bydd unrhyw rodd yr ydych yn ei gwneud yn eich Ewyllys yn ddi-dreth ac bydd modd i chi leihau eich cyfradd treth gyflawn os oes mwy na 10% o’ch ystâd wedi’i gadael i elusen.

Rhoi er cof am rywun

Bydd eich cymynrodd yn gwneud gwahaniaeth

Mae nifer o ffyrdd y gall cymynrodd o’ch ewyllys wneud gwahaniaeth a bod yn werthfawr i’r Coleg. Rydym yn croesawu rhoddion beth bynnag fo’u maint a gallai hyd yn oed 1% o’ch ystâd gael effaith fawr.

Rhoddion sydd heb eu cyfyngu yw’r rhai mwyaf pwerus, gan y byddant yn caniatáu i ni fuddsoddi yn y blaenoriaethau strategol pwysicaf a’r cyfleoedd mwyaf cyffrous sydd ar gael pan dderbynnir y rhoddion.

Fodd bynnag, os hoffech ddweud sut y caiff eich cymynrodd ei defnyddio, mae nifer o ddewisiadau yr ydym wedi eu nodi fel rhai sydd bob amser yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a sylweddol i’n myfyrwyr.

Cylch ’49

Mae Coleg Brenhinol Cymru wedi sefydlu Cylch ’49 i ddiolch a chydnabod cylch arbennig o gefnogwyr ffyddlon sydd yn gwneud rhodd ddyngarol eu hunain trwy wneud adduned o rodd i’r Coleg yn eu Hewyllys.

Fel rhywun sydd wedi gwneud adduned o rodd yn eich Ewyllys, cewch eich gwahodd i ddod yn aelod o Gylch ’49. Os hoffech fod yn rhan o’r grŵp hwn, byddwn yn diolch i chi drwy:

  • Ddarparu gohebiaeth reolaidd gan y Coleg, yn cynnwys rhaglen dymhorol Beth Sydd Ymlaen
  • Cydnabod eich cefnogaeth ar ein tudalen ‘Diolch’
  • Eich gwahodd i ddigwyddiad blynyddol Cylch ’49
  • Anfon Adroddiad Blynyddol CBCDC i chi

Dechreuodd y cyfan drwy rodd...

Yn 1947 rhoddodd Pumed Marcwis Bute ei gartref, Castell Caerdydd a’i barciau, yn rhodd i Ddinas Caerdydd. Yn dilyn hyn, ym 1949, sefydlwyd Coleg Cerdd Caerdydd (sydd erbyn hyn yn Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru) a daeth y Castell yn gartref iddo am 25 o flynyddoedd.

Rydym erbyn hyn yn hyfforddi dros 800 o fyfyrwyr ym meysydd drama a cherddoriaeth bob blwyddyn, mewn canolfan fywiog a phoblogaidd ar gyfer y celfyddydau perfformio sy’n denu cynulleidfaoedd o tua 60,000 o bobl yn flynyddol. Mae hyn yn cynnig cyfleusterau hardd o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr ac amgylchedd proffesiynol i weithio a pherfformio i’r cyhoedd ynddo...ac rydym yn dal wedi ein lleoli nesaf at Barc Bute a’n cartref gwreiddiol, Castell Caerdydd.

Canllaw

Os byddwch yn penderfynu eich bod eisiau gwneud cymynrodd i’r Coleg ac yn gwybod sut yr ydych am ei chyfeirio, rydym yn eich cynghori i sgwrsio â chyfreithiwr er mwyn sicrhau bod eich Ewyllys yn gyfreithiol ddilys, wedi ei diweddaru ac yn adlewyrchu eich bwriadau.

Os yw eich dymuniadau’n syml, gallai’r ddwy enghraifft hon o eiriad sy’n cwmpasu dau fath o gymynrodd fod yn ddefnyddiol i chi.

Gwybodaeth bellach

Os hoffech gael sgwrs gyfrinachol, byddem yn fodlon iawn i drafod gyda chi sut y gallai eich cefnogaeth – drwy gymynrodd, neu rodd er cof – fod yn fwyaf effeithiol, tra’n cyflawni eich dymuniadau.


Archwilio’r adran