Casgliad Opera Rara Foyle

Casgliad Opera Rara Foyle

Mae Casgliad Opera Rara Foyle, sydd nawr yn ganolog i gasgliadau arbennig Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, am ddim i bawb gael ei weld. Casgliad sy’n adlewyrchu diddordebau Patric Schmid a Don White, a sefydlodd Opera Rara yn gynnar yn y 1970au, ydyw ac mae’n canolbwyntio ar y traddodiad bel canto Eidalaidd gwych ac yn cynnwys cyfoeth o ddeunydd sy’n rhoi golwg unigryw ar gynhyrchu opera yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ynddo ceir casgliad eang o lawysgrifau operatig – nifer ohonynt yn llawysgrifen y cyfansoddwyr eu hunain, argraffiadau cyntaf a chynnar o sgoriau opera y bedwaredd ganrif ar bymtheg, llythyrau a ysgrifennwyd gan gyfansoddwyr a chantorion, ac amrywiaeth eang o adnoddau archifol eraill sy’n ymwneud ag opera megis lluniau, cardiau post, rhaglenni, posteri, cynlluniau gwisgoedd, a thoriadau o bapurau newydd.

 

Beth yw Opera Rara?

Cwmni opera sydd wedi’i leoli yn y DU, a sefydlwyd gan Patric Schmidt a Don White yn y 1970au cynnar, yw Opera Rara. Mae’n arbenigo mewn dod ag operâu prin ac anghofiedig yn ôl yn fyw. Mae catalog Opera Rara yn cynnwys dros 100 o deitlau, gan gynnwys 60 o recordiadau opera llawn ac mae ei waith wedi gwneud i bobl ailystyried enw da Donizetti, Pacini, Offenbach a Mercadante, gan newid y ffordd y caiff y cyfansoddwyr hyn eu gweld yn rhyngwladol. Gellir cael rhagor o wybodaeth am Opera Rara ar wefan y cwmni.

 

Beth yw Casgliad Opera Rara Foyle?

Casglwyd y deunydd ynghyd yn bennaf gan y sylfaenwyr a deithiodd Ewrop yn chwilota mewn siopa cerddoriaeth a siopau llyfrau, yn casglu eitemau a oedd o ddiddordeb iddynt. Oherwydd hyn, mae’r casgliad yn hynod amrywiol. Mae’n cynnwys:

  • sgoriau cynnar ac argraffiadau cyntaf o operâu’r bedwaredd ganrif ar bymtheg
  • llawysgrifau wedi’u llofnodi gan Donizetti, Mercadante, Mayr, Pacini ac eraill
  • copïau o lawysgrifau cynnar o sgoriau llawn a chaneuon unigol
  • llythyrau wedi’u hysgrifennu yn llaw cyfansoddwyr a chantorion y bedwaredd ganrif ar bymtheg
  • libretti cynnar
  • gwaith celf yn ymwneud ag opera
  • eitemau diddorol eraill yn ymwneud ag opera
  • archif Opera Rara ei hun sy’n cynnwys sgoriau perfformio a chynlluniau

Sut y gellir gweld y casgliad?

Gall unrhyw un weld y casgliad am ddim. Boed eich bod yn ymchwilydd, yn gantor, cerddor, cynfyfyriwr, neu’n aelod chwilfrydig o’r cyhoedd, gellir defnyddio’r casgliad i gynorthwyo eich gwaith ymchwil, ateb cwestiwn llosg, neu i ysbrydoli prosiectau creadigol.

Gellir ei weld drwy apwyntiad yn unig, ond os oes gennych ddiddordeb mewn gweld neu ddysgu mwy am unrhyw rai o’n casgliadau, cysylltwch â ni drwy e-bostio archives@rwcmd.ac.uk (a fyddech cystal â rhoi o leiaf un wythnos o rybudd i ni). Mae’r sgoriau wedi’u catalogio yng nghatalog llyfrgell CBCDC (gellir addasu’r chwiliad ar gyfer y casgliad hwn yn unig neu drwy ei ddewis ar y gwymplen ar ochr dde’r bar chwilio). Gellir dod o hyd i’r catalogau archif ar yr Hyb Archifau. Gellir gweld eitemau sydd wedi’u digideiddio o’r casgliad hwn ar dudalen Flickr Archifau CBCDC.

 

Acknowledgements

Llwyddodd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gaffael Casgliad Opera Rara yn dilyn grant mawr gan Sefydliad Foyle. Bu Sefydliad Foyle hefyd yn ddigon hael i ariannu ail-leoli’r casgliad a chyflogi archifydd am y flwyddyn gyntaf yr oedd y casgliad yng Nghaerdydd. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, sydd wedi ariannu gwaith ar y Casgliad, gan gynnwys ei storio, catalogio a’r gwaith gofalu amdano, yn ogystal â chyflogi archifydd am flwyddyn arall. Mae llawysgrifau o’r Casgliad wedi cael eu gwarchod diolch i grant gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadwraeth Llawysgrifau, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.