Gwasanaethau Myfyrwyr

Gwasanaethau Myfyrwyr

Rydym yn ymfalchïo ein bod yn darparu lefel eithriadol o sylw unigol, yn academaidd ac o ran lles.

Mae staff ymroddgar yn rhoi cymorth a chyngor i fyfyrwyr gydag amryw o wahanol anghenion ac yn cynnig cymorth ymarferol o ddydd i ddydd, sy’n amrywio o ddod o hyd i lety priodol a phobl i rannu tŷ â chi, i roi cyngor ar arian, cael mynediad at gyllid a dod o hyd i waith rhan-amser.

Mae ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn cydlynu amryw o wasanaethau arbenigol er mwyn cefnogi iechyd corfforol, meddyliol ac ysbrydol myfyrwyr yn CBCDC. Mae’r rhain yn cynnwys cymorth i fyfyrwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol, anawsterau iechyd meddwl, ac anableddau, yn ogystal â gwasanaeth cwnsela cyfrinachol rhad ac am ddim, gwasanaeth tylino chwaraeon, a chynllun Artist Iach sy’n cynnig cymorth arbenigol ynghylch iechyd cysylltiedig â pherfformio.

 

Cymorth i Fyfyrwyr gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae’r Coleg yn cynnig cyngor proffesiynol a chyfrinachol i helpu myfyrwyr gyda chyflyrau iechyd neu anawsterau dysgu, gan gynnwys dyslecsia, epilepsi, iselder, ME, diabetes ac anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Gallwn gydlynu ystod o gymorth ymarferol i sicrhau eich bod yn gallu ymgymryd â’ch astudiaethau yn CBCDC, gwneud cynnydd yn ystod eich cwrs a graddio’n llwyddiannus. Mae gan y Coleg gymorth mentora mewnol ar gyfer iechyd meddwl, cymorth astudio mewnol, ac mae’n darparu gwasanaeth cwnsela cyfrinachol yn rhad ac am ddim. Gall ein Rheolwr Cymorth Myfyrwyr helpu myfyrwyr i wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl, trefnu asesiadau o anghenion, a datblygu Cynlluniau Cymorth Unigol.

 

Cysylltwch â Ni

Gallwch gysylltu â’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn studentservices@rwcmd.ac.uk neu dros y ffôn ar 029 2039 1321.