Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Nid perffeithrwydd yw popeth: Tim Rhys-Evans ar gerddoriaeth ac iechyd meddwl

Gan amlygu pwysigrwydd cerddoriaeth a’i effaith gadarnhaol ar ein lles, ysgrifennodd y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Tim Rhys-Evans ar gyfer cylchgrawn Music Teacher am ei berthynas bersonol rhwng cerddoriaeth ac iechyd meddwl.

Tim Rhys-Evans yw Cyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC, mae’n arweinydd côr o fri a’n sylfaenydd Elusen Aloud ac yn 2013 dyfarnwyd MBE iddo am wasanaethau i gerddoriaeth. Mae’n eiriolwr angerddol dros lesiant yn y diwydiant cerddoriaeth ac archwiliodd ei raglen ddogfen arobryn ar y BBC yn 2016, All in the Mind, ei brofiad o chwalfa iechyd meddwl, iselder a hunanladdiad.

Gall cerddoriaeth fod yn bopeth

Dim ond pan oeddwn yn yr ysbyty a’r seicolegydd clinigol yn gofyn i mi am fy niddordebau y daeth yn amlwg iawn nad oedd gennyf un mwyach – cerddoriaeth fu hynny erioed. Yn y deng mlynedd ar hugain diwethaf doeddwn i ddim wedi sylweddoli nad oedd unrhyw beth wedi llenwi’r gofod lle bu cerddoriaeth.

Os ydych chi’n gwneud rhywbeth rydych chi’n ei garu ac yn poeni’n angerddol yn ei gylch, boed hynny’n gerddoriaeth neu’n addysgu, mae’n hawdd cael eich diffinio’n llwyr gan yr hyn rydych chi’n ei wneud a rhoi’r gorau i weld y person y tu ôl i hynny.

Mae mor bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud rhywbeth ystyriol sy’n eich bwydo’n greadigol ac yn ysbrydol ac nad oes unrhyw beth ynddo sy’n gwneud i chi feddwl am waith. Dechreuais i wnïo a rhedeg.

Gochelwch rhag perffeithrwydd

'Mae cerddorion wedi’u hyfforddi i ymdrechu am berffeithrwydd, i roi’r perfformiad di-ffael neu i greu’r gwaith perffaith. Mae hyn yn beryglus iawn; mae yna berfformiadau gwych wrth gwrs ond y diffygion hynny sy’n rhoi personoliaeth i ddarn ac yn ei wneud yn eiddo i chi mewn gwirionedd.'
Tim Rhys-EvansCyfarwyddwr Cerddoriaeth, CBCDC

Yn fy achos i mewn plentyndod, cerddoriaeth oedd y ffordd i mi ddianc rhag anawsterau: roedd y piano bob amser yno i mi, roeddwn yn dda am ei chwarae, a gallwn ymgolli yn hynny. Ond daeth hefyd yn esgus i beidio â mynd allan i chwarae gyda phlant eraill, gan fy ngalluogi i aros yn fy swigen gyfforddus ac osgoi bradychu fy hun. Y piano oedd fy nghysur a’m baglau.

Po fwyaf y byddwch chi’n buddsoddi mewn cerddoriaeth y gorau y byddwch wrth gwrs, ond gall arwain at gymhlethdodau. Roeddwn i’n cael fy seboni a’m canmol. Ni allwn gael digon ohono a diolch i Dduw amdano, rhoddodd hyder rhyfeddol i mi yn fy ngallu. Ond ces fy sugno i mewn i’r trobwll hefyd, fe wnaeth fy nhynnu oddi wrth bobl eraill felly wnes i ddim magu hyder cymdeithasol. Roedd angen cydbwysedd.

Only Boys Aloud

Gwybod bod yna fechgyn allan yna fel fi oedd angen hynny oedd y rheswm i ni greu Only Boys Aloud, yn wreiddiol yn gangen o Only Men Aloud. Ein nod oedd ymgysylltu cenhedlaeth newydd o bobl ifanc â phŵer canu corawl, hybu hunangred a hunanhyder, annog dyhead, meithrin sgiliau a datblygu ymdeimlad o gymuned.

Fel y mae pob athro cerddoriaeth yn gwybod, gall cerddoriaeth fod yn wastatwr gwych, yn enwedig y disgyblaethau hynny sy’n haws cael mynediad atynt fel canu neu ddrymio. Mae pŵer cerddoriaeth i fod heb ragfarn neu’n gysylltiedig â gallu academaidd yn ei wneud yn hwb mawr i hyder.

Only Boys Aloud yn canu yng nghyntedd Carne y Coleg

Yn aml dim ond un bachgen sydd yng nghôr yr ysgol, un bachgen mewn cymuned sydd eisiau bod yn rhan o gerddoriaeth glasurol, heb ofni dial na chael ei feirniadu, a dyna lle chwaraeodd Only Boys Aloud ei ran. Mae’n fan lle gallent gael eu cyflwyno i ganu a cherddoriaeth mewn modd anfygythiol, heb ddim tâl, dim clyweliad, a dim angen am offeryn. Nid yw mwyafrif helaeth y plant sy’n gysylltiedig â’r corau hyn yn gerddorion ac yn aml nid ydynt hyd yn oed wedi meddwl am ganu o’r blaen. Ond maent yn bwrw ati ac yn sylweddoli’n fuan bod ei wneud yn rheolaidd yn arwain at welliant, felly maent yn dechrau ymlacio a chael llawer o hwyl. Ffaith arall yw bod canu yn rhyddhau’r un endorffinau â bwyta siocled - mae’n weithgaredd llesol, yn rhoi mwy o ocsigen i’r corff ac yn gwneud i chi deimlo’n dda.

Cwrs gradd cerddoriaeth newydd yn CBCDC

Yn ddiweddar rydym wedi diweddaru ein cwrs gradd cerddoriaeth yn CBCDC i sicrhau ein bod yn meithrin lles yn ogystal â hyfforddi cerddorion ar gyfer y dyfodol.

'Mae offerynnau taro a symud yn diwallu’r un anghenion â chanu, a dyna pam ei bod bellach yn orfodol i’n holl fyfyrwyr cerddoriaeth blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn gyfarfod i ganu, symud a chreu cerddoriaeth tarawol bob wythnos fel rhan o’n modiwl Cerddor Integredig. Mae ein myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau gallu cerddorol, rhythm, synnwyr traw, ond mae hefyd yn rhan fawr o’u hiechyd meddwl, gan ddod at ei gilydd fel grŵp blwyddyn ac yn rhoi sylw i ochr gymdeithasol creu cerddoriaeth.'
Tim Rhys-EvansCyfarwyddwr Cerddoriaeth, CBCDC
Côr yn canu gyda Bryn Terfel

Rydym hefyd eisiau hyfforddi cerddorion iach a hapus sy’n gallu mynd allan a gwneud gwahaniaeth i gymdeithas drwy eu celfyddyd. Nid dim ond hyfforddi ar gyfer swyddi yr ydym, mae’n newid sylfaenol yn y ffordd y maent yn datblygu creadigrwydd ac uniaethu fel artist. Felly mae ein cyrsiau newydd hefyd yn gwreiddio gwaith cymunedol, cydweithio creadigol ac entrepreneuriaeth, gan weithio gyda phob cerddor i gyrraedd ei botensial artistig a phersonol ei hun i ddod yn grewyr hyblyg, hunangynhyrchiol ac iach a fydd yn cyfrannu, ac yn ffynnu yn heriau’r diwydiant cyfoes.

Ymddangosodd yr erthygl hon yn y cylchgrawn Music Teacher fel rhan o’n partneriaeth llesiant ar 1 Hydref 2022

Storïau eraill