Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MMus Piano Cydweithredol

  • Dyfarniad:

    MMus Piano Cydweithredol

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    819F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Dewch i gael hyfforddiant arbenigol gyda phianyddion proffesiynol wrth i chi weithio ochr yn ochr â phartneriaid cerddorol mewn detholiad amrywiol a chyffrous o berfformiadau ensemble.

Trosolwg o’r cwrs

Mae ein cwrs meistr arloesol yn cynnig hyfforddiant arbenigol mewn piano cydweithredol, ynghyd â llawer o gyfleoedd amrywiol i ymarfer y grefft o berfformio ensembles.

Wrth galon eich astudiaeth mae hyfforddiant un i un gyda phianyddion sy’n mwynhau gyrfaoedd proffesiynol llwyddiannus y tu allan i addysgu. Byddant yn eich arwain drwy ddewisiadau repertoire sy’n datblygu eich sgiliau artistig, technegol ac ensemble – gan ymdrin ag amrywiaeth mor eang â phosibl o repertoire a sefyllfaoedd cydweithredol i’ch paratoi ar gyfer bywyd ar ôl graddio.

Byddwch hefyd yn cael hyfforddiant rheolaidd mewn perfformio ensemble, yn ogystal â dosbarthiadau iaith, sesiynau hyfforddiant llais a hyfforddiant uwch mewn cerddoriaeth siambr.

Mae perfformio ar eich pen eich hun ac mewn sefyllfa gydweithredol hefyd yn allweddol i’ch hyfforddiant. Fel rhan o’n rhaglen drylwyr o weithgareddau perfformio, byddwch yn gwella eich stamina, yn datblygu ymwybyddiaeth o brotocolau proffesiynol ac yn gwella eich sgiliau cyfathrebu cerddorol a heb fod yn gerddorol.

Mae ein hamgylchedd dysgu croesawgar yn rhoi’r rhyddid i chi archwilio eich diddordebau cerddorol ac arbrofi gyda dulliau newydd arloesol o weithio. Bydd hyn i gyd yn helpu i’ch paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus a pharhaol fel cerddor cydweithredol.

Geirdaon

'Rydw i’n mwynhau cael fy hyfforddi gan arbenigwyr blaenllaw sydd wedi perfformio gyda chantorion, unawdwyr offerynnol a cherddorion siambr byd-enwog. Fy hoff ran o’r cwrs yw’r cyfleoedd niferus i berfformio yn y byd go iawn, a’r amrywiaeth toreithiog o brosiectau cydweithredol sy’n fy helpu i ddod yn artist cynhwysfawr ac a fydd yn datblygu fy ngyrfa ymhellach.’
Chen Meng
‘Mae Cymru yn lle mor greadigol sy’n gweld y celfyddydau fel rhywbeth i bawb gymryd rhan ynddo. Mae’r ethos hwnnw’n rhan o’r Coleg ac yn ei wneud yn unigryw.’
Errollyn WallenErrollyn Wallen, Cyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Byddwch yn cael amrywiaeth eang o hyfforddiant drwy wersi a hyfforddiant unigol gyda’ch partneriaid cerddorol (eich ‘prif astudiaeth’). Bydd eich prif astudiaeth a’ch hyfforddiant cysylltiedig yn cael eu cefnogi gan ddosbarthiadau ymarferol mewn darllen ar yr olwg gyntaf, sgiliau technegol a gwaith byrfyfyr.
  • Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys unawdwyr offerynnol a lleisiol adnabyddus a cherddorion siambr, hyfforddwyr nodedig, cyfansoddwyr blaenllaw, arweinwyr ac artistiaid creadigol mewn amrywiaeth o genres – yn ogystal â’r prif chwaraewyr mewn ensembles a cherddorfeydd mawr. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf i chi.
  • Mae gennych chi’r rhyddid i siapio eich modiwlau craidd i gyd-fynd â’ch sgiliau a’ch nodau gyrfa. Mae rhywfaint o hyblygrwydd gyda rhai modiwlau o ran fformatau asesu, a fydd yn eich galluogi i brofi’r hyn rydych wedi’i ddysgu mewn ffordd sy’n gweithio i chi.
  • Rydym yn weithgar mewn cymunedau celfyddydol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae ein partneriaethau agos â sefydliadau celfyddydol blaenllaw yn cynnig o gyfleoedd i rwydweithio a datblygu eich rhwydwaith cysylltiadau – sy’n hanfodol ar gyfer sefydlu gyrfa bortffolio lwyddiannus.
  • Mae cyfran fawr o’ch hyfforddiant yn golygu cymryd rhan mewn gweithgareddau perfformio arbenigol (fel sesiynau cerddoriaeth siambr), lle byddwch yn cael adborth adeiladol gan eich athrawon a’ch cyfoedion. Gallwch hefyd gymryd rhan mewn prosiectau perfformio ensemble mwy os mai dyna yw eich diddordebau.
  • Er bod pwyslais ein cwrs ar berfformio cydweithredol, byddwch hefyd yn ymdrin â repertoire unigol i sicrhau’r lefel uchaf o sicrwydd technegol a cherddorol ar y piano.
  • Gallwch hefyd fynychu seminarau perfformio trawsadrannol sy’n ymchwilio i feysydd fel gwytnwch perfformio, cynnal trefn ymarfer effeithiol a thechnegau dysgu ar gof.
  • Gofynnir i chi ymuno â myfyrwyr llais mewn dosbarthiadau iaith sy’n cynnig gwersi gramadeg ac ynganu yn yr ieithoedd operatig allweddol (Eidaleg, Almaeneg a Ffrangeg). Efallai y cewch wahoddiad i chwarae yn y sesiynau hyn hefyd, gan eich helpu i ddatblygu eich sgiliau astudio cyflym.
  • Byddwch yn cael cyfle i greu a churadu eich prosiectau perfformio eich hun, gan ganiatáu i chi gynnal ymchwil manylach i feysydd sy’n cyd-fynd â’ch sgiliau a’ch uchelgeisiau o ran gyrfa.
  • Bydd llawer o’ch ail flwyddyn yn canolbwyntio ar greu prosiectau proffesiynol, sy’n gysylltiedig â phrofiadau yn y byd go iawn. Mae’r meysydd y gallwch ganolbwyntio arnynt yn cynnwys ymchwil, addysgu, cerddoriaeth gymunedol, ymarfer creadigol cydweithredol, cyfansoddi a chelfyddyd ddigidol. Byddwch yn cael eich arwain gan fentor, a fydd yn cwrdd â chi’n rheolaidd, gan gynnig cymorth arbenigol a’ch helpu i ehangu eich rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant.
  • Gallwch fynd i ddosbarthiadau meistr gyda chyfeilyddion rhyngwladol blaenllaw a cherddorion siambr sy’n ymweld â’r Coleg bob blwyddyn fel rhan o’n rhaglen berfformio.
  • Mae eich hyfforddiant yn cynnwys llawer o gymorth unigol, ond mae hefyd yn cynnwys nifer o gyfleoedd i weithio gyda myfyrwyr ar eich cwrs a gyda’r rheini o’n hadran ddrama. Ar wahân i’r cyfle i greu gwaith newydd cyffrous, mae’r cyfleoedd cydweithio hyn yn eich galluogi i ffurfio partneriaethau creadigol a all bara ymhell ar ôl i chi raddio.
  • Cewch gyfle i gymryd rhan yn ein seminarau cyflogadwyedd, lle byddwch yn dysgu sut mae datblygu a chynnal gyrfa bortffolio lwyddiannus. Mae’r sesiynau hyn yn ymdrin â phynciau fel rhwydweithio, cyfryngau cymdeithasol, treth a chyllid a cheisiadau am gyllid.

Gwybodaeth arall am y cwrs

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf