Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MMus Cyfansoddwr-Perfformiwr

  • Dyfarniad:

    MMus Cyfansoddwr-Perfformiwr

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    826F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Astudiwch ddau arbenigedd ar y lefel uchaf, gan gyfansoddi gwaith creadigol arloesol ochr yn ochr â hyfforddiant perfformio gyda rhai o ymarferwyr gorau’r diwydiant.

Trosolwg o’r cwrs

Mae ein cwrs, sy’n canolbwyntio ar gyfansoddi cerddoriaeth a pherfformio, yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddilyn gyrfa broffesiynol fel artist amryddawn.

Byddwch yn datblygu llais creadigol unigryw drwy hyfforddiant wedi’i deilwra gyda thiwtoriaid adnabyddus sydd â chysylltiadau agos â’r diwydiant. Ynghyd â’ch hyfforddiant un i un, byddwch yn cael sesiynau hyfforddi, seminarau a dosbarthiadau ymarferol i gefnogi eich astudiaethau.

Byddwch yn cael gwybodaeth eang am dechnegau cyfansoddi a dulliau proffesiynol, ac yn creu gwaith newydd, ysgogol y gallwch ei rannu â chynulleidfaoedd ar draws y Coleg a thu hwnt.

O ran perfformio, byddwch yn astudio sgiliau technegol, arddulliol, artistig a deallusol sy’n sail i bob perfformiad ar y lefel uchaf. Y tu allan i’ch hyfforddiant, bydd gennych chi gyfleoedd i arddangos eich talent yn ein cyfleusterau o’r radd flaenaf.

Mae ymchwil a myfyrio yn sail i ddatblygiad eich celfyddyd greadigol, ond mae cydweithio hefyd yn hanfodol i’ch rhaglen astudio. Byddwch yn gweithio gydag artistiaid o’r un anian mewn gwahanol adrannau ar draws y Coleg i guradu prosiectau perfformio cyffrous ac arloesol.

Geirdaon

'Y gorau o ddau fyd go iawn. O’r diwedd, gallaf weithio ar ddwy grefft rydw i wrth fy modd â nhw a darganfod sut maen nhw’n gorgyffwrdd. Gallaf sicrhau bod fy llais artistig yn cael ei glywed nawr.'
Anna DrewniokMyfyriwr
‘Mae’r Coleg yn teimlo fel lle i ymchwilio i sut fath o beth fydd dyfodol cerddoriaeth, yn ei holl ffurfiau, gan ofyn cwestiynau pwysig ein hoes am gerddoriaeth a drama.'
Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Byddwch yn cael cymysgedd o wersi un i un – sef ‘prif astudiaeth’ – ynghyd â dosbarthiadau perfformio, seminarau, gweithdai, dosbarthiadau meistr a hyfforddiant.
  • Gallwch deilwra eich rhaglen astudio i adlewyrchu eich diddordebau a’ch uchelgeisiau o ran gyrfa.
  • O’r cychwyn cyntaf, byddwch yn cael prif diwtor astudio o dîm o arbenigwyr. Maent yn cynnwys unawdwyr offerynnol a lleisiol adnabyddus a cherddorion siambr, hyfforddwyr nodedig, cyfansoddwyr blaenllaw, arweinwyr ac artistiaid creadigol mewn amrywiaeth o genres – yn ogystal â’r prif chwaraewyr mewn ensembles a cherddorfeydd mawr. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf i chi.
  • Er bod ein cwrs wedi’i strwythuro i gynnig llawer iawn o hyfforddiant unigol i chi, mae hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd i weithio gyda myfyrwyr ar eich cwrs a myfyrwyr o wahanol adrannau (fel drama). Mae’n golygu mwy na dim ond creu gwaith newydd cyffrous, ond meithrin perthnasoedd a fydd yn parhau ar ôl graddio.
  • Mae ein cysylltiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol â sefydliadau celfyddydol blaenllaw yn cynnig gyfleoedd i rwydweithio neu ddod o hyd i fentoriaid, gan eich helpu i ffurfio sylfaen i yrfa lwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.
  • Bydd artistiaid rhyngwladol adnabyddus yn ymweld â’r Coleg fel rhan o’n rhaglen o berfformiadau cyhoeddus. byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan yn eu dosbarthiadau meistr, lle byddant yn cynnig arweiniad hollbwysig ar fynd â’ch gallu artistig i’r lefel nesaf.
  • Yn ystod eich cwrs, byddwch hefyd yn creu ac yn curadu eich prosiectau perfformio eich hun, gan eich galluogi i wneud gwaith ymchwil manylach i feysydd sydd o ddiddordeb i chi. Fel rhan o’n harddangosfa flynyddol o waith myfyrwyr sy’n graddio, byddwch yn ymgymryd â rôl rheolwr prosiect i ddod â’ch perfformiad unigol at ei gilydd. Gall hyn gynnwys recriwtio ac ymarfer gyda chwaraewyr, cysylltu â gweithrediadau technegol ynghylch logisteg a darparu’r holl wybodaeth hyrwyddo.
  • Am ran helaeth o’ch ail flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu prosiectau proffesiynol sy’n defnyddio eich sgiliau a’ch talentau y tu allan i’r Coleg ac yn y gymuned. Mae’r meysydd y gallwch ganolbwyntio arnynt yn cynnwys ymchwil, addysgu, cerddoriaeth gymunedol, ymarfer creadigol cydweithredol, cyfansoddi a chelfyddyd ddigidol. 
  • Mae rhan o’r gwaith hwn yn cynnwys cwrdd â mentor arbenigol, sy’n cynnig cymorth ac yn eich helpu i ehangu eich rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant.

Gwybodaeth arall am y cwrs

Ymunwch â ni ar gyfer ein gŵyl o gerddoriaeth newydd gan ein hadran gyfansoddi ein hunain

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf