Trosolwg o’r Cwrs
Bydd y rhaglen hon yn darparu hyfforddiant eang sy’n berthnasol i’r gofynion a’r galw sydd ar gwmnïau opera proffesiynol, gan fynd i’r afael â materion cyflogadwyedd pwysig a ddaw’n fwy arwyddocaol yn y degawd nesaf.
- Gwersi canu un i un a hyfforddiant yn y repertoire
- Hyfforddiant unigol gyda chantorion proffesiynol o fri a hyfforddwyr blaenllaw
- Hyfforddiant arbenigol yn yr Eidaleg, y Ffrangeg a’r Almaeneg
- Dosbarthiadau cwbl integredig mewn crefft llwyfan yn cynnwys symud a dawns
- Hyfforddiant mewn sgiliau dramatig a dehongli
- Dosbarthiadau sy’n canolbwyntio ar ymddygiad proffesiynol a phrotocol opera, gan ddatblygu ymwybyddiaeth o arferion gweithio ar y cyd
- Arferion gwaith operatig proffesiynol gyda chyfarwyddwyr a répétiteurs proffesiynol
- Perfformiad cyhoeddus mewn opera wedi ei llwyfannu’n llawn
- Cyflwyniadau o olygfeydd o operâu yn cynnwys gweithiau baròc a chyfoes yn ogystal â’r repertoire safonol
- Cyfleoedd i ddilyn ac arsylwi ar ddigwyddiadau parti cyngherddau’r WNO, prosiectau WNO Max a rhai ymarferiadau stiwdio
- Mentoriaid o gorws WNO drwy gais
- Hyfforddiant dwys mewn techneg clyweliad
- Astudio a pharatoi rhan operatig gyflawn yn fanwl ar gyfer ei chyflwyno mewn sesiwn clyweliadau a gwaith sy’n cyfateb i un proffesiynol a sesiwn gwaith. Asesir hwn fel arfer gan Bennaeth Cerddoriaeth un o brif gwmnïau opera y DU
Strwythur y Cwrs
A fyddech cystal â nodi, er bod y wybodaeth isod yn adlewyrchu’r rhaglen a gynhigir hyd yma, gall hon gael ei haddasu a’i newid yn y dyfodol. Ymgynghorir â myfyrwyr bob amser ynglŷn â newidiadau o’r fath a bydd manylion ar gael i ymgeiswyr sydd â chynigion.
Er mwyn i fyfyrwyr allu symud ymlaen o flwyddyn un i flwyddyn dau, bydd angen iddynt fel arfer llwyddo ym mhob un o fodiwlau’r flwyddyn gyntaf.
-
Gwybodaeth Modiwlau
Rhan Un
Modiwl Credydau Y Gweithiwr Opera Proffesiynol 1 20 Y Perfformiwr Cydweithredol 20 Siarad Testun a Chreu Cymeriad 20 Perfformiad Opera 1 40 Rhan Dau
Modiwl Credydau Prosiect Ensemble Opera 20 Perfformiad Opera 2 40 Y Gweithiwr Opera Proffesiynol 2 20
Gofynion Mynediad
Mynediad trwy wrandawiad a dylai ymgeiswyr allu arddangos lefel o allu perfformio sy’n briodol ar gyfer hyfforddiant proffesiynol. Mae’r gofynion mynediad lleiafswm fel arfer yn cynnwys gradd 2:1 mewn cerddoriaeth neu gymhwyster cyfwerth, er y gall y Coleg ystyried ceisiadau gan bobl heb gymwysterau ffurfiol os oes ganddynt lefel eithriadol o allu, profiad ymarferol, a dealltwriaeth dda o’r proffesiwn opera.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.
Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024
Hyd y Cwrs | Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw | Myfyrwyr Tramor |
---|---|---|
2 flynedd llawn amser | 14,620 * | £24,640 * |
* Mae’r swm hwn ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn unig. Mae’r ffi dysgu sy’n daladwy yn yr ail flwyddyn yn amodol ar gynnydd blynyddol.
Gwybodaeth bellach am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.