Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

BMus (Anrh) Cerddoriaeth – Cyfansoddi

  • Dyfarniad:

    BMus (Anrh) Cerddoriaeth – Cyfansoddi

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    4 blynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    300F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Dysgwch y sgiliau a fydd yn eich helpu i gyfansoddi amrywiaeth eang o gerddoriaeth - o waith ar gyfer cerddorfa lawn i gerddoriaeth electronig haniaethol.

Trosolwg o’r cwrs

Mae’r cwrs hwn, sy’n cynnwys holl nodweddion arbennig ein cwrs BMus blaenllaw, yn cynnig dewis o fodiwlau arbenigol i fyfyrwyr sy’n dymuno cael gyrfa hir yn cyfansoddi cerddoriaeth.

Bydd yr hyfforddiant sy’n bersonol i chi, yn cynnwys gwersi unigol a gwersi grŵp, a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich dull artistig eich hun o greu cerddoriaeth ar gyfer amrywiaeth o genres a chynulleidfaoedd.

Mae hyn yn cynnwys archwilio amrywiaeth eang o dechnegau ac arddulliau gyda’n tîm dethol o diwtoriaid arbenigol sy’n gyfansoddwyr cerddoriaeth wedi’i nodiannu a thechnoleg cerddoriaeth greadigol. Mae gan bob un ohonynt flynyddoedd o brofiad proffesiynol ac maent yn weithgar yn y diwydiannau creadigol.

Wrth i chi weithio drwy'r cwrs, byddwch yn cael yr opsiwn i ganolbwyntio fwy a mwy ar dechnoleg cerddoriaeth greadigol. Mae’r opsiwn (neu’r ‘llwybr’) hwn ar gyfer cyfansoddwyr sydd â diddordeb mewn arbenigo fwy a mwy mewn cerddoriaeth electronig. Gallai hyn fod yn gerddoriaeth electronig haniaethol, ond gall hefyd gynnwys:

  • celf sain
  • cerddoriaeth ar gyfer y cyfryngau
  • cerddoriaeth ar gyfer y cyfryngau rhyngweithiol
  • realiti rhithwir, realiti estynedig (XR)
  • cerddoriaeth ddawns electronig neu unrhyw genres masnachol cyfoes eraill

Mae cydweithio â’ch cyd-fyfyrwyr ar eich cwrs - a myfyrwyr o adrannau eraill yn y Coleg - yn rhan hollbwysig o’ch hyfforddiant. Drwy weithio mewn amrywiaeth o leoliadau ensemble, byddwch yn cynhyrchu gwaith cerddorfaol neu gyfansoddiadau gwreiddiol ac yn dysgu’r holl arferion gwaith proffesiynol y bydd arnoch angen eu gwybod er mwyn paratoi at recordio a pherfformio’n fyw.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Byddwch yn darganfod amrywiaeth eang o ffurfiau, arferion a thechnegau cerddorol - a sut mae’r rhain yn berthnasol i ddisgyblaethau artistig eraill. Byddwch yn defnyddio'r wybodaeth hon i ysbrydoli eich arferion creadigol eich hun ac i ddod o hyd i’ch llais cyfansoddi.
  • Fel rhan o’ch hyfforddiant arbenigol, byddwch yn cael cyfuniad o wersi un i un a gwersi grŵp, sef yr hyn rydym yn ei alw’n ‘brif astudiaeth’. Mae’n cwmpasu dosbarthiadau perfformio, dosbarthiadau ymarferol, gweithdai, sesiynau mewn stiwdio, darlithoedd, seminarau, prosiectau grŵp a chyfleoedd i gymryd rhan mewn profiad gwaith.
  • Nid yw’r hyfforddiant yr un peth i bawb - byddwch yn cael dewis helaeth o fodiwlau a fydd yn caniatáu i chi ddilyn gyrfa sy’n cyd-fynd â’ch uchelgais a’r hyn rydych chi’n ei ffafrio. Os nad ydych chi’n siŵr beth hoffech ei wneud ar ôl graddio, byddwn yn eich cefnogi chi ac yn rhoi’r cyfle i chi wneud penderfyniad.
  • Mae ein cysylltiadau clos a’n profiad gyda’r diwydiannau creadigol yn golygu y cewch nifer o gyfleoedd i ddysgu o weithio gydag artistiaid a cherddorion proffesiynol.
  • Byddwch yn cael cyfleoedd i weithio gyda chyd-fyfyrwyr cerddoriaeth ac actorion, cynllunwyr, rheolwyr llwyfan a myfyrwyr rheolaeth yn y celfyddydau y Coleg. Mae hyn yn eich helpu i ffurfio partneriaethau a all bara ymhell ar ôl i chi raddio, ac mae hefyd yn datblygu eich awydd i wybod ac yn eich helpu i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd, sy’n fwyfwy hanfodol ar gyfer gyrfa lwyddiannus fel gweithiwr llawrydd annibynnol yn ogystal ag aelod o dîm.
  • Rydym wedi cynnwys llawer iawn o asesu yn eich hyfforddiant. Mae’r ‘ddeialog’ barhaus hon yn hollbwysig i’ch helpu i dyfu a datblygu fel artist.
  • Ar wahân i archwilio elfennau ymarferol cyfansoddi cerddoriaeth, gallwch hefyd ddysgu am agweddau corfforol, deallusol ac emosiynol hynny. Rydym yn ymchwilio i dueddiadau sy’n newid drwy’r amser, cyfryngau newydd a llwyfannau rhannu cerddoriaeth. Mae modiwlau dewisol yn cynnwys Techneg Alexander, bioleg ar gyfer cerddorion, cerddoriaeth ar gyfer theatr a recordio sain.

Geirdaon

'Bydd cwrs cyfansoddi Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn eich helpu i gyrraedd eich llawn botensial, beth bynnag fo’ch cefndir a pha bynnag feysydd cyfansoddi rydych chi’n canolbwyntio arnynt. Ers i mi ddechrau’r cwrs, rydw i wedi dysgu i wneud pethau nad oeddwn i fyth yn meddwl y byddwn i’n yn gallu eu gwneud – fel cyfansoddi electronig neu syntheseiddio sain. Rydw i’n dysgu rhywbeth defnyddiol bob dydd ac mae fy stôr o sgiliau cyfansoddi yn ehangu’n gyson.'
Anna Drewniok
‘Mae’r Coleg yn teimlo fel lle i ymchwilio i sut fath o beth fydd dyfodol cerddoriaeth, yn ei holl ffurfiau, gan ofyn cwestiynau pwysig ein hoes am gerddoriaeth a drama.'
Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Gwybodaeth arall am y cwrs

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Ymunwch â ni ar gyfer ein gŵyl o gerddoriaeth newydd gan ein hadran gyfansoddi ein hunain

Allow Unistats content?

Lorem ipsum doler sit amet Unistats seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf