Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

BA (Anrh) Cynllunio ar gyfer Perfformio

  • Dyfarniad:

    BA (Anrh) Cynllunio ar gyfer Perfformio

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    3 blynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    W460 – UCAS

Cyflwyniad


Ewch ati i archwilio pob agwedd ar gynllunio setiau a gwisgoedd ar gyfer theatr, digwyddiadau, teledu a ffilmiau ar y cwrs dwys hwn sy’n seiliedig ar sgiliau ymarferol a pherfformio.

Trosolwg o’r cwrs

Mae profiad ymarferol a lleoliadau gwaith gyda rhai o enwau mwyaf y diwydiant yn rhan ganolog o’ch hyfforddiant. 

Gyda’n hyfforddiant arbenigol ym maes cynllunio setiau a gwisgoedd, byddwch yn dysgu’r holl sgiliau ymarferol a phroffesiynol sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa yn gweithio ym maes digwyddiadau, teledu, theatr neu ffilm. 

Mae’n dechrau gyda chyflwyniad i ddulliau a thechnegau cynllunio – fel lluniadu technegol, defnyddio meddalwedd cynllunio, creu gwisgoedd a gwneud propiau. Bydd cyfres o brosiectau astudio cysyniadol ac arbenigol wedyn yn eich galluogi i ddefnyddio eich sgiliau ac archwilio eich hunaniaeth artistig heb gyfyngiadau ymarferol.

Dan arweiniad eich tiwtoriaid, byddwch yn nodi cryfderau a diddordebau penodol i’w datblygu drwy ddosbarthiadau sgiliau uwch a gwaith seiliedig ar berfformio. 

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr cerddoriaeth a drama mewn rhai o bron i’r 30 digwyddiad a gynhelir yn y Coleg bob blwyddyn. 

Byddwch hefyd yn cael lleoliadau gwaith gyda’n sefydliadau partner, sy’n rhai o’r enwau mwyaf eu bri yn y diwydiant, gan gynnwys y BBC, Badwolf Studios, Cos Props, y Tŷ Opera Brenhinol a’r National Theatre. 

Daw eich cwrs i ben gyda myfyrwyr yn trefnu i arddangos gwaith ymarferol a gwaith prosiect pawb; gwaith sydd wedi’i gasglu a’i fireinio dros y tair blynedd. Bydd hwn yn cael ei arddangos yng Nghaerdydd ac ar South Bank yn Llundain, lle ceir ymweliadau gan ddarpar gyflogwyr o stiwdios a theatrau mawr.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Byddwch yn cael dealltwriaeth ddofn o theori ac ymarfer cynllunio sy’n gysylltiedig â pherfformio er mwyn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn theatr, ffilm neu deledu. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o sgiliau ymarferol, gan gynnwys lluniadu technegol, CAD, SketchUp, gwneud modelau, torri patrymau, creu gwisgoedd, gwneud hetiau, teilwriaeth, celf golygfeydd a gwneud propiau.
  • Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys ymarferwyr ac artistiaid creadigol o amrywiaeth o ddisgyblaethau – sy’n cynnig mentoriaeth a chyfleoedd rhwydweithio yn ogystal ag addysg o’r radd flaenaf i chi.
  • Rydym wedi ffurfio partneriaethau cryf â rhai o enwau mwyaf y diwydiant, fel y BBC, Badwolf Studios, Cos Props, y Tŷ Opera Brenhinol a’r National Theatre, a byddwch yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith gyda nhw yn ystod eich cyfnod yma.
  • Gallwch deilwra eich astudiaeth i gyd-fynd â’ch diddordebau a’ch uchelgais o ran gyrfa – a does dim rhaid i chi benderfynu ar arbenigedd tan eich blwyddyn olaf.
  • Mae ein dosbarthiadau yn fach, felly byddwch yn cael llawer o gefnogaeth unigol gan eich tiwtoriaid.
  • O’r wythnos gyntaf ymlaen, byddwch yn dechrau datblygu prosiectau ymarferol, gan ganolbwyntio ar wisgoedd, propiau a phypedwaith cydweithredol. Yn nes ymlaen yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn gweithio’n unigol ac fel rhan o dîm i greu digwyddiad ‘gwisg fel perfformiad’ ar y cyd â myfyrwyr rheoli llwyfan.
  • Fel rhan o’ch cwrs, byddwch hefyd yn cynllunio set a gwisgoedd ar gyfer testun clasurol mewn theatr draddodiadol, gan weithio gyda thiwtor yn rôl cyfarwyddwr, gyda staff ychwanegol yn rhoi arweiniad ymarferol.
  • Byddwch hefyd yn archwilio technegau pypedwaith, gan eich paratoi ar gyfer lleoliadau posibl mewn cynyrchiadau mawr sy’n benodol i safle a gynhelir bob haf gan yr adran Cynllunio ar gyfer Perfformio.
  • Bob blwyddyn, mae’r Coleg yn cynhyrchu mwy na 26 o gynyrchiadau theatr gan gynnwys theatr gerdd ac opera. Yn eich ail flwyddyn, gallwch weithio ar y cynyrchiadau hyn mewn rolau fel cynorthwyydd cynllunio, artist golygfeydd, gwneuthurwr propiau, goruchwyliwr neu wneuthurwr gwisgoedd, yn dibynnu ar eich maes arbenigedd. Yn ystod eich blwyddyn olaf, mae rolau posibl yn cynnwys rôl uwch neu gynllunydd yn y tîm gwireddu.
  • Bob blwyddyn, mae rhwng 20 a 30 o ymarferwyr blaenllaw yn ymweld â’r Coleg i gynnal dosbarthiadau meistr gyda’n myfyrwyr, gan roi cipolwg heb ei ail i chi ar y diwydiant.
  • Byddwch yn datblygu eich sgiliau ymchwil drwy ddarlithoedd, seminarau a theithiau maes gan ganolbwyntio ar ddatblygiadau pwysig yn hanes theatr, celf, pensaernïaeth, cynllunio a gwisgoedd.
  • Byddwch hefyd yn dysgu sut mae creu eich gwefan broffesiynol eich hun – sy’n hanfodol i gynllunwyr sy’n gweithio yn y diwydiant heddiw.

Gwybodaeth arall am y cwrs

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Allow Unistats content?

Lorem ipsum doler sit amet Unistats seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf