Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Manon Antoniazzi

Rôl y swydd: Dirprwy Cadeirydd

Manon yw Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd, ac mae’n gyfrifol am sicrhau bod Aelodau’r Senedd yn cael y gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i gynrychioli Cymru a’i phobl, a bod enw da’r Senedd yn cael ei hyrwyddo yng Nghymru a thu hwnt fel democratiaeth hygyrch ac effeithlon.

Mae wedi bod yn aelod o Fwrdd Cronfa Treftadaeth y Loteri fel Dirprwy Gadeirydd a Chadeirydd Pwyllgor Cymru, a Chyfarwyddwr Anweithredol Cerddorfa Ffilharmonig Llundain. Mae hi hefyd wedi bod yn Llywodraethwr y Royal Shakespeare Company ac yn aelod o fyrddau cynghori Cerddorfa’r Ffilharmonia ac Opera Cenedlaethol Cymru.

Cyn ymuno â’r Cynulliad, roedd Manon yn Gyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i Lywodraeth Cymru, ac yn Brif Weithredwr Croeso Cymru. Yn gynharach yn ei gyrfa bu’n Ysgrifennydd Preifat i Dywysog Cymru, a bu’n gweithio mewn uwch rolau cyfathrebu yn y BBC, S4C a’r Cynulliad Cenedlaethol.

Proffiliau staff eraill