Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Dr Ella Hawkins


Rôl y swydd: Uwch-ddarlithydd Ymchwil ac Arloesedd (Drama)

Adran: Drama

Anrhydeddau: PhD; MA; BA

Cymwysterau

  • PhD Astudiaethau Shakespeare, Sefydliad Shakespeare, Prifysgol Birmingham 
  • MA Shakespeare a Theatr, Sefydliad Shakespeare, Prifysgol Birmingham 
  • BA Theatr a Pherfformio, Prifysgol Warwick 

Bywgraffiad

Mae Ella Hawkins yn arbenigwr Shakespeare, yn hanesydd dylunio, ac yn artist. Fel myfyriwr gradd ym Mhrifysgol Warwick, enillodd Wobr Ymchwil Astudiaethau Theatr a Pherfformio 2015. Cafodd ei hymchwil PhD – a oedd yn ymwneud â dylunio gwisgoedd Shakespeare a ysbrydolwyd gan yr arddull Elisabethaidd – ei hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Ymunodd Ella â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2023 fel Uwch Ddarlithydd Ymchwil ac Arloesedd (Drama), ac mae’n gyfrifol am arwain gweithgarwch ymchwil y Coleg ym myd y ddrama. 

Mae Ella yn rhannu ei diddordeb mewn dylunio drwy gydweithio â sefydliadau celfyddydol a threftadaeth, a thrwy greu gwaith celf bwytadwy sydd wedi cael ei ysbrydoli gan decstilau, gwrthrychau a gwisgoedd hanesyddol. Mae hi wedi gweithio gyda’r Llyfrgell Brydeinig, Amgueddfa Llundain, Milton’s Cottage, Jane Austen’s House, David Parr House, The Museum of English Rural Life, Amgueddfa Reading, Oriel Gelf Crawford a Leighton House ar amrywiol brosiectau celf ar ffurf bisgedi. Mae hi wedi gweithio gydag Amgueddfa Victoria ac Albert, Shakespeare Birthplace Trust, y Royal Shakespeare Company a Dash Arts ar brosiectau sy’n ymwneud â Shakespeare a hanes byd y theatr. 

Diddordebau ymchwil

Mae ymchwil Ella yn canolbwyntio’n bennaf ar ddylunio ar gyfer Shakespeare. Datblygwyd ei llyfr cyntaf, Shakespeare in Elizabethan Costume (Bloomsbury, 2022), ar sail ei thraethawd ymchwil PhD, ac mae’n archwilio sut mae dillad oes Shakespeare yn cael eu hailgylchu a’u hailddychmygu gan ymarferwyr theatr wrth ddylunio gwisgoedd cyfoes. 

Mae’r llyfr yn cyfuno gwybodaeth ymarferol am brosesau creu gwisgoedd â deunyddiau cyfweld gwreiddiol, dadansoddiad testunol, tystiolaeth hanesyddol a fframweithiau beirniadol o wahanol feysydd (fel damcaniaethau am archaeoleg arbrofol, twristiaeth ddiwylliannol, chwedlau tylwyth teg ac ysbrydeg) i ganfod y berthynas rhwng gwisgoedd unigol a naratifau diwylliannol eang. 

Mae Ella hefyd wedi cyhoeddi gwaith ar arwyddocâd dramatig a diwylliannol esblygol coler Elisabethaidd, ar ddyluniad gwisgoedd Paul Tazewell ar gyfer sioe gerdd Hamilton, ac ar lyfrau gwyliau’r 17eg ganrif. 

Mae Ella bellach yn gweithio ar brosiect ymchwil newydd ynghylch creu a rhannu dillad chwarae, eiddo a dodrefn yn Llundain fodern gynnar. 

Addysgu

Yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Ella yn addysgu myfyrwyr am hanes cyd-destunol y ddrama fodern gynnar ac am sgiliau ymchwil. Mae hi hefyd yn rhoi darlithoedd a seminarau ac yn arddangos gwisgoedd yn rheolaidd y tu hwnt i’r Coleg ar hanes dylunio, arferion gwisgoedd a Shakespeare.

Goruchwyliaeth ôl-raddedig

Mae Ella yn awyddus i glywed gan ddarpar fyfyrwyr ymchwil doethurol sydd â diddordeb yn hanes Shakespeare mewn cyd-destun perfformio; Shakespeare yng nghyd-destun perfformio cyfoes; dylunio ar gyfer perfformiad; hanes gwisgoedd; arferion perfformio modern cynnar; a hanes byd y theatr yn fwy cyffredinol.

Cynnyrch ymchwil

Llyfr

  • Shakespeare in Elizabethan Costume: ‘Period Dress’ in Twenty-First-Century Performance(Bloomsbury [The Arden Shakespeare], 2022). 

Erthyglau mewn cyfnodolion

  • One British Archive: Creating an Edible Archive, Journal of British Studies, 64 (2025): e5.  

  •  The ‘Shakespearean’ Ruff, Shakespeare Bulletin, 39.2 (2021): 191-213.

Penodau mewn llyfrau

  • Telling the story of Hamilton in the twenty-first century: the layering of historical and modern aesthetics through costume design, yn Dueling Grounds: Revolution and Revelation in the Musical Hamilton, gol. gan Mary Jo Lodge a Paul Laird (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2021), 164–80.

  • Appendix 1: A True Discourse, the principal English festival book of the 1625 wedding, including two addresses at Canterbury by John Finch (Yn cynnwys trawsgrifiad a nodiadau), yn The Wedding of Charles I and Henrietta Maria, 1625. Celebrations and Controversy, gol. gan Marie-Claude Canova-Green a Sara Wolfson (Brepols, 2020), 321–42.

Adolygiadau

  • The Winter’s Tale, a gyflwynwyd gan y Royal Shakespeare Company ar Shakespeare Bulletin, 39.4 ar BBC4 (2022): 704-8.
  • Adolygiad mewn Llyfr: Richard II: A Critical Reader gan Michael Davies ac Andrew Duxfield, Cahiers Élisabéthains, 106.1 (2021): 134-6.

Proffiliau staff eraill