Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Caryl Thomas

Rôl y swydd: Athro Telyn

Adran: Y Delyn

Anrhydeddau: MMus, FRWCMD

Bywgraffiad

Yn unawdydd, cerddor siambr ac athrawes uchel ei pharch, ymddangosodd Caryl Thomas am y tro cyntaf yn America yn 1981 yn Neuadd Carnegie, ymddangosodd yn Llundain am y tro cyntaf yn Neuadd Wigmore flwyddyn yn ddiweddarach, ac ers hynny mae wedi perfformio gyda chlod arbennig ledled Ewrop, UDA a’r Dwyrain Pell. Graddiodd o Goleg Cerdd a Drama Cymru ac enillodd radd Meistr o Brifysgol Efrog Newydd.

Mae Caryl wedi perfformio fel unawdydd gyda Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, BBC NOW, Bournemouth Sinfonietta, Cerddorfa St John’s Smith Square, a Cherddorfa Mozarteum yn Salzburg. Yn ystod cyfnod fel telynores gyda Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, bu’n chwarae dan arweiniad arweinwyr blaenllaw fel Syr Simon Rattle, Klaus Tennstedt, Leonard Slatkin, Syr Bernard Haitink a Syr George Solti. Mae ei recordiadau’n cynnwys Concerto Mozart i’r Ffliwt a'r Delyn gyda Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, datganiad unigol o’r enw Clair de Lune, a chasgliad o weithiau siambr Ffrengig gydag Ensemble Prometheus.

Yn 2007, Caryl oedd Cyfarwyddwr Artistig y 7fed Symposiwm Telynau Ewropeaidd, ac ym mis Mehefin 2016 bu’n feirniad ar banel Cystadleuaeth Delynau Ryngwladol UDA. Mae Caryl yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Cyngres Telynau’r Byd, a hi oedd Cadeirydd Pwyllgor Derbyn y 14eg Gyngres yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf 2022.

Proffiliau staff eraill