Ceri Rees
Arweinydd aml-ensemble
Derbyniodd Adam Wachter ei Radd Baglor yn y Celfyddydau Theatr o Brifysgol Michigan a’i MA, gyda chlod, mewn Theatr Gerddorol o Goldsmiths, Prifysgol Llundain. Mae wedi gweithio’n broffesiynol fel cyfansoddwr, awdur geiriau, cyfarwyddwr cerddorol, a phianydd ar Broadway, ar y teledu, ac mewn cynyrchiadau a chyngherddau ledled y byd, ac yn fwyaf diweddar roedd yn Athro Cynorthwyol Gwadd ar raglen theatr gerddorol enwog Prifysgol Point Park yn Pittsburgh, Pennsylvania.
Yn CBCDC, mae Adam yn addysgu ar draws cyrsiau BA ac MA Theatr Gerddorol, gan ganolbwyntio ar ddethol repertoire clyweliadau a pherfformio cân unigol.
Derbyniodd Adam Wobr ‘Cân Newydd Orau Stiles + Dre 2018, ‘Gwobr Cyn-fyfyrwyr Artist Datblygol’ Prifysgol Michigan 2021 mewn theatr, a ‘Gwobr John Wallowitch’ MAC 2021 am gyfansoddi caneuon.
Enillodd ei sioe gerdd Tarrytown Wobr Craig Noel Cylch Beirniaid Theatr San Diego 2017 am ‘Sioe Gerdd Newydd Orau’ ac roedd ym mhlith y 10 uchaf yng Ngwobr Richard Rodgers 2019.
Cafodd y ffilm fer Sign, gyda’r sgôr wreiddiol a’r sgript wedi’u cyfansoddi gan Adam, ei dangos am y tro cyntaf yn OutFest, enillodd Wobr Rheithgor Ieuenctid Iris a Gwobr y Gynulleidfa am Ffilm Fer Naratif. Mae wedi’i dangos mewn mwy na hanner cant o wyliau ffilm ledled y byd.