

Cyfleoedd rhyngwladol i fyfyrwyr CBCDC
Gall astudio neu weithio dramor fod yn brofiad trawsnewidiol, gan eich helpu i ddatblygu sgiliau newydd, ehangu eich persbectif, a meithrin cysylltiadau rhyngwladol.
Yn CBCDC, rydym yn cefnogi ystod o gyfleoedd byd-eang ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-radd llawn amser ar ffurf dau gynllun ariannu allweddol a gynhelir gan Brifysgol De Cymru (PDC):
- Taith - cynllun gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluiau cyfnewid a phrosiectau rhyngwladol.
- Cynllun Turing - menter y DU gyfan sy’n cefnogi astudio a lleoliadau gwaith dramor.
Mae’r ddau gynllun yn cynnig cymorth ariannol i helpu i dalu costau teithio a byw, gyda chyllid ychwanegol ar gael i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig a rhai ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau.
Beth allwch chi ei wneud dramor?
Mae sawl ffordd y gallwch ennill profiad rhyngwladol yn ystod eich astudiaethau:
- Astudio mewn sefydliad partner – Treulio rhwng 2 wythnos a 12 mis dramor, gyda’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis tymor neu semester.
- Cymryd rhan mewn prosiect rhyngwladol – Ymuno â chydweithrediad dwys gyda myfyrwyr o sefydliadau partner, sydd fel arfer yn para 2-4 wythnos.
- Cwblhau lleoliad gwaith rhyngwladol – Ennill profiad proffesiynol gyda sefydliad dramor am 14 diwrnod neu fwy. Gallwch hefyd dderbyn cyllid ar gyfer lleoliadau yn y 12 mis ar ôl graddio.
- Mynychu ysgol haf ryngwladol – rhaglen tymor byr (14+ diwrnod) sy’n darparu cyfleoedd hyfforddi a rhwydweithio ychwanegol.
Yn y rhan fwyaf o achosion, gall astudio neu leoliadau gwaith gyfrif tuag at eich gradd. Er enghraifft, gall myfyrwyr cerddoriaeth integreiddio astudio dramor i BMus Blwyddyn 3 neu 4 neu MMus Blwyddyn 2.
Profiadau diweddar myfyrwyr
Dyma rai enghreifftiau o sut mae myfyrwyr wedi manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyn:
- Astudio dramor - Treuliodd myfyriwr BMus Cerddoriaeth dymor ym Mhrifysgol Toronto, a chwblhaodd myfyriwr Cynllunio/Rheoli Llwyfan hanner tymor yn Academi Celfyddydau Perfformio Hong Kong.
- Prosiect rhyngwladol - Cymerodd myfyriwr MMus Cerddoriaeth ran mewn prosiect Cerddoriaeth Arbrofol yn Academi Cerddoriaeth a Theatr Lithwania.
- Lleoliad gwaith - Bu myfyriwr MA Cyfarwyddo Opera yn gweithio fel cyfarwyddwr cynorthwyol gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Iwerddon, a chafodd myfyrwyr Cynllunio/Rheoli Llwyfan brofiad yn y Prague Quadrennial.
- Ysgol haf - Mynychodd rai myfyrwyr Academi Opera Berlin fel cantorion a cherddorion cerddorfaol.
Sut i wneud cais
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio neu weithio dramor, siaradwch â’ch Pennaeth Adran neu Arweinydd Cwrsi weld beth yw’r opsiynau. Rhennir gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael a’r prosesau ar gyfer ymgeisio ar blatfformau mewnol.
Sefydliadau partner (Ionawr 2025)
Mae gan ein hadran Gerddoriaeth hanes hir o gynlluniau cyfnewid yn Ewrop ac mae’n parhau i ehangu ei phartneriaethau ledled y byd, gan gynnwys cydweithrediadau newydd yng Ngwlad Thai.
Mae ein hadran Ddrama wrthi’n datblygu cysylltiadau rhyngwladol, gan gynnig mwy o gyfleoedd i astudio dramor a phrosiectau cydweithredol ar draws gwahanol gyrsiau.
Mae gennym bartneriaethau gyda sefydliadau ar draws Ewrop, Gogledd America ac Asia. Dyma rai o’r lleoedd lle gallech astudio:
| Gwlad | Awstria |
|---|---|
| Dinas | Graz |
| Sefydliad | Prifysgol Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio Graz |
| Gwlad | Gwlad Belg |
|---|---|
| Dinas | Brwsel |
| Sefydliad | Conservatory Brenhinol Fflandrys |
| Gwlad | |
|---|---|
| Dinas | Antwerp |
| Sefydliad | Conservatoire Brenhinol Antwerp |
| Gwlad | Canada |
|---|---|
| Dinas | Toronto |
| Sefydliad | Adran Gerddoriaeth Prifysgol Toronto |
| Gwlad | Tsieina |
|---|---|
| Dinas | Shanghai |
| Sefydliad | Conservatory Cerddoriaeth Shanghai |
| Gwlad | Gweriniaeth Tsiec |
|---|---|
| Dinas | Brno |
| Sefydliad | Academi Cerddoriaeth a Theatr Janacek |
| Gwlad | Denmarc |
|---|---|
| Dinas | Aarhus |
| Sefydliad | Academi Gerdd Frenhinol |
| Gwlad | Estonia |
|---|---|
| Dinas | Tallinn |
| Sefydliad | Academi Gerddoriaeth Estonia |
| Gwlad | Ffindir |
|---|---|
| Dinas | Helsinki |
| Sefydliad | Academi Sibelius / Prifysgol y Celfyddydau |
| Gwlad | Ffrainc |
|---|---|
| Dinas | Lyon |
| Sefydliad | Conservatoire National Superior Musique et Danse Lyon |
| Gwlad | Yr Almaen |
|---|---|
| Dinas | Leipzig |
| Sefydliad | Hochschule für Musik und Theater 'Mendelssohn-Bartholdy' |
| Gwlad | |
|---|---|
| Dinas | Hannover |
| Sefydliad | Hochschule für Musik und Theater |
| Gwlad | |
|---|---|
| Dinas | Dresden |
| Sefydliad | Hochschule für Musik Carl Maria von Weber |
| Gwlad | Hwngari |
|---|---|
| Dinas | Bwdapest |
| Sefydliad | Academi Gerddoriaeth Liszt Ferenc |
| Gwlad | Gwlad yr Iâ |
|---|---|
| Dinas | Reykjavik |
| Sefydliad | Academi Celfyddydau Gwlad yr Iâ |
| Gwlad | Iwerddon |
|---|---|
| Dinas | Dulyn |
| Sefydliad | Academi Gerddoriaeth Frenhinol Iwerddon |
| Gwlad | Yr Eidal |
|---|---|
| Dinas | Turin |
| Sefydliad | Conservatorio 'G Verdi' |
| Gwlad | |
|---|---|
| Dinas | Verona |
| Sefydliad | Conservatorio di Verona |
| Gwlad | |
|---|---|
| Dinas | Parma |
| Sefydliad | Conservatorio di Musica 'A. Boito' |
| Gwlad | Japan |
|---|---|
| Dinas | Osaka |
| Sefydliad | Coleg Cerdd Osaka |
| Gwlad | Lithwania |
|---|---|
| Dinas | Vilnius |
| Sefydliad | Academi Cerddoriaeth a Theatr Lithwania |
| Gwlad | Yr Iseldiroedd |
|---|---|
| Dinas | Utrecht |
| Sefydliad | Adran Gerddoriaeth, Prifysgol y Celfyddydau |
| Gwlad | |
|---|---|
| Dinas | Amsterdam |
| Sefydliad | Conservatorium van Amsterdam |
| Gwlad | |
|---|---|
| Dinas | Rotterdam |
| Sefydliad | CODARTS |
| Gwlad | |
|---|---|
| Dinas | Tilburg |
| Sefydliad | Academi Fontys |
| Gwlad | Norwy |
|---|---|
| Dinas | Oslo |
| Sefydliad | Academi Gerddoriaeth Norwy |
| Gwlad | |
|---|---|
| Dinas | Bergen |
| Sefydliad | Academi Grieg |
| Gwlad | Gwlad Pwyl |
|---|---|
| Dinas | Łódź |
| Sefydliad | Prifysgol Gerddoriaeth Grazyna a Kiejstut Bacewicz |
| Gwlad | |
|---|---|
| Dinas | Krakow |
| Sefydliad | Academi Gerddoriaeth Krzysztof Penderecki |
| Gwlad | Portiwgal |
|---|---|
| Dinas | Porto |
| Sefydliad | Escola Superior de Musica e das Artes Spectaculares |
| Gwlad | Sbaen |
|---|---|
| Dinas | Madrid |
| Sefydliad | Real Conservatorio Superior de Musica de Madrid |
| Gwlad | |
|---|---|
| Dinas | Barcelona |
| Sefydliad | Escola Superior de Musica de Catalunya |
| Gwlad | |
|---|---|
| Dinas | Barcelona |
| Sefydliad | Conservatori del Liceu |
| Gwlad | Y Swistir |
|---|---|
| Dinas | Bern |
| Sefydliad | Hochschule fur Musik |
| Gwlad | |
|---|---|
| Dinas | Geneva |
| Sefydliad | Conservatoire de Geneve |
| Gwlad | Gwlad Thai |
|---|---|
| Dinas | Bangkok |
| Sefydliad | Adran Gerddoriaeth Prifysgol Mahidol |
| Gwlad | |
|---|---|
| Dinas | |
| Sefydliad | Sefydliad Cerddoriaeth y Dywysoges Galyani Vadhana |
| Gwlad | UDA |
|---|---|
| Dinas | Denton, TX |
| Sefydliad | Adran Gerddoriaeth Gogledd Texas |

Taith: Cefnogi myfyrwyr i gael profiadau rhyngwladol sy’n newid bywydau

Gweithio ar ŵyl Pedair Blynedd Prague 2023: dathlu cynllunio ar gyfer perfformio
