Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Drama

REPCo: Short Sharp Shows

  • Trosolwg

    Gwe 27 Chwe 7.30pm

  • Lleoliad

    Stiwdio Caird

  • Prisiau

    £3 - £5

  • Oedran

    14+

Tocynnau: £3 - £5

Lleoliad: Stiwdio Caird

Gwybodaeth

Noson o ddramâu sy’n archwilio uchafbwyntiau ac isafbwyntiau detio ein cyplau yw Short, Sharp Shows. Dewch draw i chwerthin, i grio ac yna bwrw eich pleidlais dros eich hoff berfformiad, ochr yn ochr â’n panel o feirniaid proffesiynol.

Mae Chorley wedi dianc rhag priodas ddi-gariad ac wedi dod o hyd i rywun arall, ond er bod ei hunaniaeth newydd yn gyffrous, mae hefyd yn peri pryder. Arferai Morag garu Joe, nes iddo dorri un o’i hoff eitemau. Roedd Francoise wrth ei bodd pan gynigiwyd swydd iddi fel 'au pair' gyda theulu ym Mhrydain, ond yn fuan mae’n sylweddoli nad yw’r teulu hwn yr hyn a ddychmygodd. Mae Tom yn chwilio am gariad newydd, ar-lein. Cyfatebu, detio, ond ’does neb byth yn addas. Ai ei dynged yw i fod ar ei ben ei hun neu a yw’n rhy anodd ei blesio?

Ynglŷn â REPCo

Cwmni celfyddydau yw REPCo (Repertory by Entrepreneurial Performers Company) lle mae myfyrwyr yn dysgu ‘tra’n gweithio’, gan redeg busnes go iawn gyda chefnogaeth arbenigwyr mewnol ac allanol o’r diwydiannau celfyddydau a busnes. Ei nod yw hyrwyddo entrepreneuriaeth ieuenctid ac mae’n rhoi lle i berfformiadau a arweinir gan fyfyrwyr, lle gallant greu a rheoli cyngherddau, dramâu, operâu a mwy.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir