Jazz
Swing Into Christmas gyda Down For the Count Orchestra
Trosolwg
23 Tachwedd 2024 2.30pm & 7.30pm
Lleoliad
Prisiau
£22-£38
Tocynnau: £22-£38
Gwybodaeth
Dewch i ddathlu tymor y Nadolig mewn steil gyda chantorion ac offerynwyr Cerddorfa Down for the Count, yn eu cyngerdd Swing Into Christmas!
Mae hwn yn ddathliad Nadolig heb ei ail, wrth i Down for the Count ail-greu cerddoriaeth Nat ‘King’ Cole, Billie Holiday, Ella Fitzgerald, Frank Sinatra a llawer mwy mewn cerddorfa 30-darn hyfryd sy’n dwy’n i gof seiniau gwych recordiadau Capitol Studios.
Byddwch yn barod am ail-greadau sy’n driw i gerddoriaeth orau’r cyfnod swing gan gynnwys I’ve Got You Under My Skin, New York New York a ‘S Wonderful, ynghyd â threfniannau gwreiddiol o ganeuon safonol jazz a Nadoligaidd wedi’u hysgrifennu gan y prif arweinydd Mike Paul-Smith a’r trefnydd Simon Joyner gan gynnwys Winter Wonderland ac It’s Beginning To Look a Lot Like Christmas.
Mae’r gerddorfa yn falch iawn i fod yn dod â’r sioe Swing Into Christmas i Gymru am y tro cyntaf; bydd acwsteg hyfryd lleoliad o’r radd flaenaf Neuadd Dora Stoutzker yn CBCDC, ynghyd ag ail-greadau llawen ond parchus y band o’r gerddoriaeth glasurol hon, yn sicrhau’r dechrau perffaith i dymor y Nadolig i chi a’ch teulu.
Rhaglen:
I've Got You Under My Skin
A Nightingale Sang in Berkeley Square
Stardust
Have Yourself a Merry Little Christmas
Christmas in New Orleans
The Christmas Song (Chestnuts Roasting)
Theme from New York, New York
ac errail...