Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Sinfonia Cymru: Regenerate - Seasons for Change

Tocynnau: £3-£18

Gwybodaeth

“Roedd gwylio’r perfformiad hwn gan Sinfonia Cymru yn brofiad gwirioneddol ysbrydoledig. Cafodd effaith ddofn iawn arnaf i." Errollyn Wallen CBE

Dewch i mewn i fyd lle mae cerddoriaeth yn gatalydd ar gyfer gobaith, dychymyg a dyfodol ein planed.

Yn cynnwys ailddychmygiad o waith Vivaldi, The Four Seasons, ac ailddychmygiad o The Lark Ascending gan Vaughan Williams, ochr yn ochr â cherddoriaeth werin draddodiadol, bydd yr ymgyrchwyr hinsawdd a’r cerddorion Simmy Singh (ffidil), Delia Stevens (offerynnau taro) a Will Pound – a enwebwyd dair gwaith ar gyfer y wobr BBC Folk Musician of the Year – yn ymuno â cherddorion dan 30 oed anhygoel Sinfonia Cymru i greu llwyfan cyngerdd unigryw. Rydym yn estyn gwahoddiad i chi rannu yn y profiad ac ailddychmygu dyfodol ein planed ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Mae Regenerate: Seasons for Change yn rhaglen sy’n torri tir newydd. Comisiynwyd rhai darnau’n wreiddiol gan Sky Arts ar gyfer y gyfres Musical Masterpieces a gyflwynwyd gan Myleene Klass ac Errollyn Wallen CBE. 

Cefnogir gan The Open Fund for Organisations, Sefydliad PRS.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir