Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Cyfres Piano Llŷr Williams 2023-2025: Datganiad 3

Tocynnau: £12-£24

Archwilio Athrylith: Haydn i Schumann

“Rwy’n gorlifo â cherddoriaeth…” mae Kreisleriana Schumann yn plymio i feddwl athrylith dychmygol: cyfansoddwr mor sensitif fel mai cerddoriaeth yw ei fyd cyfan. Yn farddonol, yn chwareus, ac weithiau’n rhyfygus, mae’n gyfle gwych i artist cyswllt CBCDC Llŷr Williams arddangos ei ddawn, ac yn ganolog i ddatganiad sydd wedi’i neilltuo i Haydn, Mozart a Schumann ar eu mwyaf personol, a mwyaf beiddgar.

MOZART

Sonata No.12 yn F K.332

SCHUMANN

Kreisleriana Op.16

HAYDN

Sonata yn E leiaf Hob. XVI:34

SCHUMANN

Sonata No.1 yn F llonnod leiaf Op.11

Digwyddiadau eraill cyn bo hir