

Cwmni Richard Burton
Emilia gan Morgan Lloyd Malcolm
Trosolwg
Sad 24 Hyd - Mer 28 Hyd | 7pm ac 2pm
Lleoliad
Prisiau
£8 - £16
Tocynnau: £8 - £16
Wrthi’n llwytho...
Gwybodaeth
Wedi’i chomisiynu’n wreiddiol gan Shakespeare’s Globe, mae drama ffraeth Morgan Lloyd Malcolm yn canolbwyntio ar fywyd rhyfeddol Emilia Bassano. Achosodd y ffeminydd radical o’r ail ganrif ar bymtheg gyffro gyda’i barddoniaeth chwyldroadol – y cuddiwyd ei negeseuon mewn cerddi crefyddol i osgoi sylw’r sensoriaid – ond mae ei stori wedi’i cholli i hanes, yn wahanol i’w chyfoeswyr gwrywaidd enwog Shakespeare a Marlowe. Ymunwch â’n cast o fenywod yn unig am noson fywiog yn y theatr a dysgu am y “Dark Lady” o Sonedau Shakespeare. Cyfarwyddir gan Patricia Logue a gyfarwyddodd y ddrama wobrwyedig The Women of Llanrumney.
Gan Morgan Lloyd Malcolm
Cyfarwyddwr by Patricia Logue
Cwmni Richard Burton
Mae cwmni theatr mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Richard Burton, yn cynnwys actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr theatr a pherfformwyr theatr gerddorol sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant yn y Coleg. Fel un o gwmnïau repertoire mwyaf toreithiog Cymru, mae’n ail-ddychmygu clasuron trwy lens fodern, ac yn cyflwyno drama gyfoes, ysgrifennu newydd a theatr gerddorol sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw. Gan lwyfannu niferus o gynyrchiadau bob blwyddyn i gynulleidfaoedd Caerdydd a Llundain, mae’n grymuso ei myfyrwyr fel artistiaid creadigol, gan weithio gyda rhai o wneuthurwyr theatr gorau’r DU ac arweinwyr y diwydiant gyda ffocws proffesiynol.








