
AmserJazzTime
Darllen mwy

REPCo
Digwyddiad o'r gorffennol: Mae hwn yn ddigwyddiad o'r gorffennol.
Perfformiad rhyngddiwylliannol yw Drunk on the Wine of the Beloved wedi’i greu a’i gyfarwyddo gan y mezzo-soprano o Iran, Nazanin Dast Afkan. Wedi’i wreiddio mewn barddoniaeth Persia a cherddoriaeth Iran, mae’n dod â’r traddodiadau hyn i ddeialog â cherddoriaeth glasurol y Gorllewin drwy’r llais, ensemble byw, sain electronig, adrodd, dawns a barddoniaeth wedi’i thaflunio. Gan symud drwy themâu cariad, gwahanu a gobaith, mae’r perfformiad yn gwahodd cynulleidfaoedd i ddathlu dau draddodiad artistig tra’n darganfod y teimladau dynol cyffredin sy’n eu cysylltu.