Neidio i’r prif gynnwys

Gostyngiad i gyn-fyfyrwyr ar gyfer astudiaethau ôl-radd 

Gostyngiad o 20% i gyn-fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol De Cymru* sy’n astudio ar gyfer MA, MMus neu Gwrs Diploma i Raddedigion yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru o fis Medi 2024 ymlaen. 

Gostyngiad o 20% i gyn-fyfyrwyr


Mae'r gostyngiad yn berthnasol dros hyd cyrsiau ôl-raddedig sy'n dechrau ym mis Medi 2024, boed blwyddyn neu dwy flynedd.

Mae’n berthnasol i

  • holl raddedigion a chyn-fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a
  • holl raddedigion a chyn-fyfyrwyr Prifysgol De Cymru

sy’n cofrestru ar gyfer Cwrs MA, MMus neu Gwrs Diploma i Raddedigion yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru sy’n dechrau ym mis Medi 2024.

* Mae hyn yn cynnwys graddedigion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan gynnwys y rheini sydd â dyfarniadau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a dyfarniadau Prifysgol Cymru, yn ogystal â graddedigion Prifysgol De Cymru, Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Cymru Casnewydd, a Choleg Polytechnig Cymru.  


Adran Cwestiynau Cyffredin

Ein campws

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

'Er ei fod wedi bod yn anodd ar adegau, astudio yn CBCDC yw’r profiad gorau i mi ei gael yn fy mywyd ac rydw i mor falch o fod yn treulio blwyddyn olaf fy nghwrs yn dod â fy hunan i gyd i fy mherfformiadau fel bariton anneuaidd. Rydw i mor falch o fod yn rhan o goleg a dinas lle rwy’n teimlo bod amrywiaeth yn cael ei gofleidio, lle gallaf fod yn rhydd i fod yn wir yn fi fy hun, a lle mae fy noniau a fy nhalentau yn cael eu cydnabod a’u dathlu.'
Mica SmithMA Opera
'Yr hyn a ddylanwadodd ar fy mhenderfyniad i ddod i’r Coleg oedd diwrnod fy nghlyweliad! Rydw i’n cofio gadael yr adeilad a theimlo mor hapus a llawn cyffro wrth feddwl y gallwn gael y cyfle i fynd yno. Does unman yn debyg i’r cyntedd. “Naws fyddwn i’n ei alw ond gellid hefyd ei alw’n reddf? Rydw i’n dweud hynny nawr oherwydd bron bob tro rwy’n mynd adref byddaf yn canmol fy hun am y penderfyniad hwnnw.'
Chloe DickensBMus (Anrh)

Rhesymau i astudio gyda ni

    • Mae ein sefydliad amlddiwylliannol ffyniannus yn croesawu 800 o fyfyrwyr o dros 40 o wledydd. Byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr ag offerynwyr, actorion, cantorion, cyfansoddwyr a chynllunwyr ar gyfer perfformio eraill ac yn gweithio gyda hwy ar brosiectau drwy gydol y flwyddyn.
    • Mae cydweithio yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn, gan eich galluogi i drochi mewn profiadau newydd gydag ystod eang o ddisgyblaethau a sgiliau o bob adran o’r Coleg. Mae ein cwmni REPCo unigryw a arweinir gan fyfyrwyr yn annog myfyrwyr i gydweithio i fod yn feiddgar, yn llawn dychymyg ac yn entrepreneuraidd.
    • Mae ein partneriaethau â diwydiant yn rhoi profiadau dysgu gwell yn y byd go iawn gyda sefydliadau celfyddydol a cherddorion proffesiynol blaenllaw, a hefyd yn cynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich rhwydweithiau proffesiynol ar gyfer y dyfodol.
    • Mae CBCDC yn ganolfan gelfyddydau brysur sy’n llwyfannu 500 o berfformiadau’r flwyddyn (llawer ohonynt am ddim) sy’n gyfuniad o artistiaid o’r radd flaenaf a gwaith myfyrwyr, yn aml ochr yn ochr. Mae digwyddiadau mawr rheolaidd yn CBCDC yn cynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, BBC Canwr y Byd Caerdydd a digwyddiadau annibynnol fel Cyngres Telynau’r Byd ym mis Gorffennaf 2022.
    • Y Coleg yw’r conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a Dan 18 yn adolygiad Gwella Ansawdd Cerddoriaeth rhyngwladol diweddar MusiQuE. Gwnaeth agwedd y Coleg o ran profiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, a nododd fod CBCDC yn enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewrop, ac yn adlewyrchu pobl eithriadol a chymuned unigryw’r Coleg.
    • Fel yr unig gonservatoire Steinway cyfan yn y byd mae gan y Coleg bellach fflyd o bianos o’r radd flaenaf, ac mae pob piano acwstig yn y Coleg yn un Steinway.
    • Credwn yn sylfaenol yng ngrym cerddoriaeth i drawsnewid a chyfoethogi cymdeithas, gan ddatblygu sgiliau addysgu, hyfforddi a chyd-greu prosiectau i greu cerddorion y dyfodol a fydd yn gwneud argraff fel perfformwyr, athrawon a galluogwyr o fewn y gymuned ehangach. Mae cwestiynau sylfaenol - ‘Sut gallwn siapio diwydiant y dyfodol’, ‘Sut gallwn ddefnyddio celfyddyd i wneud gwahaniaeth’ – yn ein helpu i gynhyrchu cerddorion sy’n wirioneddol berthnasol i’r byd yr unfed ganrif ar hugain.
    • Byddwch yn ymarfer, yn astudio ac yn perfformio mewn lleoliad hyfryd a llawn ysbrydoliaeth sy’n ffinio â Pharc Bute, sef un o fannau gwyrdd mwyaf y ddinas. Mae gennym neuadd gerddoriaeth siambr gydag acwsteg hynod, cyntedd a man perfformio gwydrog, Theatr Richard Burton, yn ogystal â stiwdios a mannau rihyrsal o’r radd flaenaf.
    • Mae ein campws yng nghanol Caerdydd, Dinas Gerddoriaeth gyntaf y DU, a phrifddinas gartrefol a llewyrchus Cymru, sydd ond dwy awr ar y trên i ganol Llundain.
    • Cafodd Caerdydd ei henwi’n ddinas fwyaf cost-effeithiol yn y DU ar gyfer myfyrwyr, yn ôl Mynegai Byw Myfyrwyr NatWest 2022.

Ymunwch â’n rhestr bostio

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Archwilio’r adran

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf