Neidio i’r prif gynnwys

Byw yng Nghaerdydd

Nid cyd-ddigwyddiad yw bod ein myfyrwyr yn caru Caerdydd, ond beth sy’n ei wneud yn lle mor arbennig?

Canolfan greadigol

Caerdydd, prifddinas Cymru, yw un o ddinasoedd prifysgol mwyaf poblogaidd y DU. Gyda phoblogaeth o ddim ond 360,000, hon yw’r 11fed ddinas fwyaf yn y DU, ac mae’n llawn egni creadigol ifanc.

Mae amrywiaeth drawiadol y ddinas o leoliadau celfyddydol, chwaraeon a diwylliannol i gyd o fewn pellter cerdded rhwydd i ganol y ddinas. Mae’r ddinas yn cynnal rhaglen llawn dychymyg o ddigwyddiadau a gwyliau, a gallwch ddod o hyd i’r holl opsiynau bwyta, siopa a bywyd nos y byddech yn eu disgwyl mewn prifddinas Ewropeaidd lewyrchus.

Cipolwg ar ein dinas

Cyfleoedd cyffrous

Gyda’r sector creadigol yn ffynnu yng Nghymru, mae cyfleoedd cyffrous i’n myfyrwyr a’n graddedigion gael profiad a dod o hyd i waith. Mae Caerdydd yn gartref i gwmnïau celfyddydol cenedlaethol Cymru, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, canolfan cynhyrchu drama fwyaf y BBC y tu allan i Lundain, cwmni cynhyrchu byd-eang Bad Wolf (His Dark Materials, A Discovery of Witches ac I Hate Suzie), Real SFX (cwmni effeithiau arbennig sydd wedi ennill Gwobr Emmy a sawl Gwobr BAFTA) a nifer o ganolfannau celfyddydol ar draws y ddinas.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Caerdydd a'r Coleg

Rydym yn chwarae rhan bwysig yn y seilwaith diwylliannol ehangach hwn. Fel conservatoire a chanolfan gelfyddydau, rydym yn un o leoliadau mwyaf poblogaidd y ddinas, gan ddenu 60,000 o ymwelwyr y flwyddyn i’n perfformiadau a’n digwyddiadau ein hunain. Rydym hefyd yn cyflawni rôl hanfodol o ran cefnogi’r sector creadigol ehangach yng Nghymru a thu hwnt.

Mae gan Gymru enw da am ei chymuned groesawgar. Efallai fod hynny oherwydd y ffordd rydyn ni’n diolch i’n gyrwyr bysiau (cheers, drive) neu oherwydd ein bod ni’n ymfalchïo yn ein hagwedd agored a chynhwysol – ond peidiwch â chymryd ein gair ni. Dewch i astudio gyda ni a phrofi’r croeso Cymreig cynnes drosoch chi eich hun.


Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf