Y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol (NOYO) yw ensemble ieuenctid cenedlaethol cyntaf yn y byd o dan arweiniad pobl anabl, sy’n hyrwyddo rhagoriaeth gerddorol ac yn rhoi llwybr dilyniant i rai o gerddorion ifanc anabl ac nad sy’n anabl mwyaf dawnus y DU.
Mae cerddorion Cerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol, sydd rhwng 11-25 oed, yn ymarfer ac yn perfformio gyda’i gilydd fel aelodau o ensemble cynhwysol arloesol.
Cefnogir aelodau NOYO i ddatblygu eu potensial cerddorol gydag ymarferion misol, hyfforddiant un-i-un a chyngherddau.
Cynhelir ymarferion Canolfan NOYO Caerdydd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gan ddechrau ym mis Medi 2023. Mae cyfranogiad am ddim i aelodau NOYO a hyfforddeion.
Byddant hefyd yn dod ynghyd â cherddorion o Ganolfannau NOYO eraill yn Llundain, Bryste, Birmingham a Bournemouth am gyfnod preswyl blynyddol a chyngherddau ensemble cyfan o dymor y Gwanwyn 2024.
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn falch o fod yn bartneriaid i’r Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol.

Bydd y broses gais ar gyfer NOYO ar agor rhwng 1-31 Mawrth 2023. Ewch i wefan NOYO i gael gwybod mwy a gwneud cais am glyweliad.