Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MA Jazz

  • Dyfarniad:

    MA Jazz

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    710F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Cyfle i hyfforddi ochr yn ochr â rhai o gerddorion jazz gorau’r DU ar y cwrs arloesol hwn sy’n cynnig hyfforddiant un i un, hyfforddiant ensemble a nifer o gyfleoedd i berfformio.

Trosolwg o’r cwrs

Ewch â’ch celfyddyd i lefel uwch ar ein cwrs sy’n cynnig hyfforddiant arbenigol gyda gweithwyr proffesiynol adnabyddus yn y diwydiant, hyfforddiant datblygu gyrfa a chyfleoedd perfformio proffesiynol ac yn y Coleg. 

Mae eich hyfforddiant yn cynnwys gwersi un i un gyda rhai o gerddorion jazz gorau’r DU, yn ogystal â dosbarthiadau uwch mewn paratoi cerddoriaeth, dosbarthiadau gwrando a dadansoddi arbenigol a hyfforddiant ensemble proffesiynol. 

Gallwch astudio unrhyw un o’r offerynnau hyn fel rhan o’ch cwrs:

  • Bas
  • Drymiau
  • Ffliwt
  • Gitâr
  • Telyn
  • Piano 
  • Sacsoffon
  • Trombôn
  • Trwmped
  • Llais


Gallwch roi eich sgiliau ar waith drwy berfformio yn y dosbarth neu fel rhan o’r amserlen brysur o ddigwyddiadau a gynhelir bob blwyddyn – fel y sesiynau wythnosol JazzTime sy’n cael eu harwain gan fyfyrwyr a’n gŵyl jazz yn yr haf. 

Diolch i’n cysylltiadau cryf â cherddorion jazz lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, mae cyfleoedd i berfformio mewn gwyliau ac ar deithiau proffesiynol hefyd ar gael i chi fel myfyriwr yma. 

Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn datblygu eich arbenigedd technegol a’ch sgiliau creadigol, dehongli a byrfyfyrio i fod yn artist cerddorol unigryw ac yn awdurdod aeddfed o ran arddull.

Geirdaon

‘Rydw i wrth fy modd â fy nghwrs. Mae’r addysg Jazz yn wych; mae’r tiwtoriaid yn arbenigwyr o fri ac yn berfformwyr penigamp, ac mae’r adborth yn adeiladol bob amser. Mae diwylliant ehangach RWMCD yn hyfryd – mae’n gynhwysol iawn. Fel myfyriwr aeddfed, rydw i’n teimlo fy mod yn cael yr un croeso â fy nghyd-fyfyrwyr iau. Mae’r cyfleusterau yn wych, gyda phiano Steinway ym mhob ystafell ymarfer bron. Mae’n seiliedig ar berfformio hefyd – felly mae llawer o chwarae, gyda theori i'w ategu, nid i’r gwrthwyneb. Mae’n heriol iawn – rydych chi’n gweithio hyd eithaf eich gwybodaeth a’ch gallu technegol bob amser – ond mae’r cymorth dysgu yno bob amser. Dydw i ddim eisiau brolio’n ormodol ... ond mae’r lle yma’n wirioneddol wych.'
Paul Mason
'Mae astudio yn yr adran Jazz yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn brofiad ardderchog. Mae awyrgylch arbennig yma; rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau hyfryd ac wedi dysgu cymaint. Mae’n lle arbennig iawn i astudio ynddo!'
Xiang Qi
‘Mae gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ei stamp unigryw ei hun, ac rydych chi’n teimlo hynny yr eiliad rydych chi’n cerdded i mewn i'r adeilad. Yr hyn sy’n arbennig o drawiadol yw pa mor agored ydyw, ac rydw i’n credu mai’r rheswm am hynny yw ymrwymiad gwirioneddol y staff a’r myfyrwyr i gyfnewid gwybodaeth mewn awyrgylch cefnogol dros ben. Gallwch weld sut byddai'r myfyrwyr yn cario hynny ymlaen i'w bywydau proffesiynol.'
Errollyn Wallen, Cyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Er mwyn eich paratoi ar gyfer bywyd proffesiynol, bydd eich hyfforddiant yn drwyadl ac yn gynhwysfawr – mae’n cynnwys cymysgedd o wersi un i un (a elwir yn ‘brif astudiaeth’), darlithoedd, seminarau, gwaith ensemble, dosbarthiadau perfformio, dosbarthiadau meistr a dosbarthiadau sgiliau technegol.
  • Bydd gennych ddosbarthiadau paratoi cerddoriaeth – gan gynnwys cyfansoddi a threfnu – yn ogystal â dosbarthiadau gwrando a dadansoddi arbenigol, fel trawsgrifio jazz ac ysgrifennu beirniadol. Mae hyfforddiant mewn dadansoddi perfformiadau a chyflwyno hefyd yn rhan o’ch astudiaeth.
  • Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys rhai o brif artistiaid jazz y DU - pob un ohonynt yn gyfansoddwyr jazz cyfoes ac yn offerynwyr/lleiswyr adnabyddus. Maent yn cynnig addysg unigol o’r radd flaenaf i chi, yn ogystal â hyfforddiant ensemble, addysgu mewn grŵp, mentora a chyfleoedd rhwydweithio.
  • Yn eich dosbarthiadau perfformio, byddwch yn cael adborth adeiladol gan eich tiwtoriaid a’ch cyd-fyfyrwyr – ac mae’r adborth llafar hwn yn hanfodol i’ch datblygiad fel artist.
  • Rydym yn rhan annatod o’r sîn jazz lleol, rhanbarthol a chenedlaethol (sy’n cynnwys darparwyr addysgol). Mae ein cysylltiadau â’r diwydiant yn sail i’n hyfforddiant, gan wneud yn siŵr ei fod yn addas i’r diben, ac arwain at gyfleoedd perfformio a lleoliadau i’n myfyrwyr.
  • Bob blwyddyn, bydd artistiaid adnabyddus o bob cwr o’r byd yn ymweld â’r Coleg i berfformio – ond byddant hefyd yn cynnal dosbarthiadau meistr gyda’n myfyrwyr, gan roi cipolwg iddynt ar y diwydiant ac arweiniad ar ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
  • Byddwch yn cael dosbarthiadau mewn datblygu gyrfa, hyrwyddo eich hun a rheoli digwyddiadau, gan helpu i’ch gwneud yn gerddor mwy cyflogadwy.
  • Mae gennych y dewis i ymgymryd â phrosiect galwedigaethol hunangyfeiriol sy'n seiliedig ar eich diddordebau, a fydd yn ehangu eich sgiliau a'ch profiad proffesiynol.

Gwybodaeth arall am y cwrs

Cyflwyniad i'r adran jazz gyda Phennaeth yr Adran, Andrew Bain

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf