Neidio i’r prif gynnwys

Gŵyl Cerddoriaeth Siambr Penarth

Bydd Gŵyl Cerddoriaeth Siambr Penarth yn dathlu ei degfed penblwydd gyda diwrnod o gyngherddau a digwyddiadau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan gynnwys yr artistiaid Rebecca Evans a Carlo Rizzi a’r actor adnabyddus, Samuel West. Bu cyfarwyddwyr yr wyl, Alice Neary a David Adams, yn cyflwyno cerddoriaeth siambr o’r radd flaenaf ym Mhenarth ers 2014, ac maent yn hynod falch eleni o fedru cyflwyno y cyfoeth hwn i’r gynnulleidfa yn CBCDC. Bydd rhestr o gerddorion clodwiw yn perfformio rhaglen unigryw a gwefreiddiol sy’n cynnwys perfformiad cyntaf Trio i Linynnau gan Huw Watkins, Schubertiade bach, a golygfa olaf Capriccio Strauss gyda traethiad newydd gan Syr David Pountney. Cwblheir y rhaglen gyda gwaith atgofus ac ysgogol Britten, Serenad ar gyfer Tenor, Corn a Llinynnau, gyda James Gilchrist a Ben Goldscheider yn serennu.

Cofrestru ar gyfer ein rhestr bostio

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau.

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Mae gen i ddiddordeb mewn: