Neidio i’r prif gynnwys

Cwynion yn ymwneud â gofynion Safonau’r Gymraeg

Rydym wedi ymrwymo i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion a allai fod gan aelodau’r cyhoedd ynghylch ein cydymffurfiaeth â’r safonau.

Cyhoeddwyd yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg 164, 170 a 176


Rydym wedi ymrwymo i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion a allai fod gan aelodau’r cyhoedd ynghylch ein cydymffurfiaeth â’r safonau. Byddwn bob amser yn dysgu o unrhyw gamgymeriadau ac yn defnyddio'r adborth a gawn i wella ein gwasanaethau.

Mae’r arweiniad hwn yn egluro sut y byddwn yn ymdrin â chwynion sy’n ymwneud â’n dyletswydd i gydymffurfio â’r safonau.


Sut i gwyno

A complaint can be registered in a number of ways:

E-bostiwch – cymraeg@cbcdc.ac.uk
Ffoniwch ni ar – 029 2034 2854
Llythyr at – Y Prifathro, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Parc Cathays
Caerdydd, CF10 3ER

Byddwn yn ymdrin â phob cwyn mewn ffordd agored a gonest. Bydd y Coleg yn gyfrifol am gydnabod cwynion o fewn 5 diwrnod gwaith gan hysbysu’r achwynydd sut rydym yn bwriadu delio â’r mater. Byddwn yn ymateb yn llawn i’r rhan fwyaf o gwynion o fewn 20 diwrnod gwaith. Os yw’n debygol o gymryd mwy o amser, byddwn yn egluro hyn ac yn diweddaru ar gynnydd.

Pe bai ateb syml i’r gŵyn, efallai y byddwn yn gofyn a yw’r achwynydd yn fodlon derbyn hyn a datrys y mater yn gyflym ac yn anffurfiol.

Os bydd angen proses fwy ffurfiol, bydd y Coleg yn ceisio sefydlu beth aeth o’i le a'i ddwyn i sylw’r Uwch Dîm Rheoli. Os ydym wedi methu â darparu gwasanaeth y dylai’r achwynydd fod wedi’i dderbyn, byddwn yn ei ddarparu os yn bosibl. Os ydym wedi gwneud camgymeriad, byddwn yn ceisio unioni’r sefyllfa a byddwn yn dysgu ohono.

Gwybodaeth bellach

Byddwn yn cadw cofnod o unrhyw gwynion a byddwn yn cynnwys crynodeb o’r rhai a dderbyniwyd ym mhob blwyddyn adrodd yn ein Hadroddiad Blynyddol ar Safonau’r Gymraeg. Bydd unrhyw gyfeiriad at achos unigol yn cael ei wneud gan roi sylw gofalus i anhysbysrwydd a chyfrinachedd. 

Darperir hyfforddiant ar gyfer yr Uwch Dîm Rheoli sy’n ymdrin â chwynion gan Gofrestrydd Academaidd y Coleg yn cydweithio ag Ysgrifennydd Cwmni CBCDC ac arbenigwyr eraill fel y bo’n briodol. 
 
 Am ragor o wybodaeth yn ymwneud â chwynion neu nodiadau o bryder cysylltwch â cymraeg@cbcdc.ac.uk 


Archwilio’r adran