Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Tom Clough

Blwyddyn graddio:

Mae perfformiadau diweddar Tom ar gyfer CBCDC yn cynnwys chwarae rhan Thierry yn ‘Dialogue of the Carmelites’ Poulenc, Somnus (Semele, Handel), Falstaff (Falstaff, Verdi) a Melchior (Amahl and the Night Visitors, Menotti) mewn golygfeydd opera, a Le Surintendant yn Cendrillon gan Massenet ar gyfer Gala Opera CBCDC gyda Carlo Rizzi a Cherddorfa’r WNO.

Ymhlith ei uchafbwyntiau eraill mae Gŵyl Ryngwladol Buxton (fel y Brenin Hildebrand yn The Enchanted Pig gan Dove), bod yn rhan o Genesis Sixteen, a gwaith diweddar gyda The English Concert a Disney Plus.

Ymunodd Tom â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gydag ysgoloriaeth ar ôl ennill gradd mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Manceinion ac mae ar hyn o bryd yn cwblhau ei radd Meistr.

Proffiliau myfyrwyr eraill