Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Takisha Sargent

MMus Cyfansoddi

Blwyddyn graddio:

Pam wnaethoch chi ddewis astudio’r cwrs MMus yn CBCDC?

Dewisais ddilyn fy ngradd Meistr mewn Cyfansoddi yn CBCDC oherwydd fy mod yn teimlo bod y lle hwn yn wirioneddol ymroddedig i wneud cerddoriaeth glasurol yn fwy cynhwysol. Yn wahanol i lawer o sefydliadau, a all deimlo’n ddethol, roedd y conservatoire hwn yn sefyll allan fel un oedd yn mynd ati i chwalu rhwystrau a chreu llwybrau newydd i ystod ehangach o bobl eu dilyn. Roeddwn i’n credu ei fod yn arwain y ffordd i eraill efelychu.

Sut wnaethoch chi deilwra’ch profiad i gyd-fynd orau â’ch dyheadau o ran gyrfa?

Treuliais gyfnod ar leoliad gyda Thŷ Cerdd yn fy ail flwyddyn tra’n ysgrifennu fy mhortffolio terfynol ar gyfer fy ngradd. Rydw i hefyd wedi creu cysylltiad â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac wedi cymryd rhan mewn paneli sy’n canolbwyntio ar wneud cerddoriaeth glasurol yn fwy cynhwysol yng Nghymru.

A gawsoch chi unrhyw berfformiadau nodedig yn ystod eich cyfnod ar y cwrs?

Cefais gyfle anhygoel i gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer gosodiad diweddar yr Athro Pamela Howard OBE, Croeso i Gymru, a oedd ar agor i’r cyhoedd yn yr Hen Lyfrgell yng nghanol dinas Caerdydd. Fy hoff ddarn o’r prosiect hwn oedd fy sgôr ar gyfer Emigrants Lament gan Bertolt Brecht lle’r oedd yr actor Jack Klaff (Star Wars) yn adrodd y geiriau i fy ngherddoriaeth i. Roedd hwn yn brosiect arbennig o gyffrous, gan mai fi oedd y cyfansoddwr cyntaf i osod cerddi Brecht i gerddoriaeth.

Sut wnaeth y cwrs eich helpu yn eich llwybr gyrfa ar ôl graddio?

Credaf fod y cwrs hwn wedi fy helpu i greu cysylltiadau gwerthfawr yn y byd proffesiynol, nid yn unig gyda theatrau ac artistiaid trwy fy ngwaith cyfansoddi ond hefyd gyda sefydliadau cerddoriaeth trwy gyfnodau ar leoliad. Mae datblygu sgiliau rhyngbersonol cryf wedi bod yn allweddol i adeiladu cysylltiadau o fewn y diwydiant sydd â hirhoedledd.

Sut brofiad yw astudio yng Nghaerdydd?

Ar ôl cwblhau fy nghyrsiau gradd ac ôl-radd yng Nghaerdydd, gallaf ddweud yn sicr fy mod yn caru’r ddinas yn fawr. Rwy’n bwriadu aros cyhyd ag y gallaf oherwydd nid oes awyrgylch tebyg i’w gael yn unman. Mae’n gymysgedd ddelfrydol o ddinas lai gyda digon o fannau gwyrdd eang. Mae rhywbeth i’w wneud bob amser - boed hynny’n feicio i lawr i’r bae, mwynhau picnic yn y parc, neu ymweld â’r tafarndai yn ystod Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad.

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Proffiliau myfyrwyr eraill