Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Niamh Pragnell Toal

Blwyddyn graddio: 2025

Astudiodd y Mezzo-soprano o’r Alban Niamh Pragnell Toal am ei graddau Israddedig ac Ôl-raddedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cwblhaodd ei gradd Meistr gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf a dyfarnwyd Gwobr Mabel Linwood Christopher a Gwobr Artistiaid Keytone iddi.
Mae ei pherfformiadau diweddar yn cynnwys: Mrs Nolan, The Medium (CBCDC), Chwaer St Charles, Dialogues of the Carmelites (CBCDC), Pan Ddaw’r Nos: Noson o gân gyda Syr Bryn Terfel (CBCDC) a Datganiadau Noson Burns (County Club Caerdydd).
Mae Niamh wedi derbyn Gwobr Opera Janet Price, ac mae ei hastudiaethau hefyd yn cael eu cefnogi’n hael gan Ymddiriedolaeth Gerddorol Iarlles Munster, Ysgoloriaeth Cymdeithas Caledonian ac Ysgoloriaeth Celfyddydau Leverhulme.

Proffiliau myfyrwyr eraill