
John Óg
2027
Blwyddyn graddio: 2027

Mae’r soprano 24 oed o Gymru Lauren Elizabeth Williams ar hyn o bryd yn astudio yn Ysgol Opera David Seligman yn CBCDC gyda’i hathrawes Anne Mason. Roedd Lauren yn aelod o LARS am 6 blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw perfformiodd mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau – nid yn unig digwyddiadau a drefnwyd gan LARS, ond hefyd ar wahoddiad sefydliadau eraill. Mae Lauren wedi perfformio fel unawdydd gwadd gyda nifer o wahanol gorau ledled Cymru. Roedd yn aelod o Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru am bum mlynedd. Ymddangosodd mewn pedwar cyngerdd ‘High Scorers’ yr ABRSM yn olynol, ac yn 2017 dyfarnwyd Gwobr Goffa Jeffrey Squires iddi gan yr ABRSM.
Mae Lauren wedi bod yn llwyddiannus mewn nifer o gystadlaethau ac yn y gorffennol daeth yn ail yn Rownd Derfynol Ranbarthol Cystadleuaeth Cerddorion Ifanc Rotari a gynhaliwyd yn y Coed-duon. Mae hi wedi ennill gwobr ‘Canwr Ifanc y Flwyddyn Castell-nedd’ ar ddau achlysur, ac yn 2020 enillodd wobr ‘Canwr Ifanc y Flwyddyn Dynfant’, gan rannu’r llwyfan â Syr Bryn Terfel ac Angharad Morgan yn eu cyngerdd dathlu. Yn y gorffennol mae Lauren wedi derbyn Ysgoloriaeth gan Gyfeillion LARS, Ysgoloriaeth Cronfa’r Utgorn, a Gwobr Lawrence C Murphy. Ym mis Medi 2026 teithiodd Lauren i Barcelona a chafodd y cyfle i berfformio fel unawdydd gwadd yn eglwys ysblennydd y Sagrada Família.