Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Jessica Robinson

MA Perfformio Opera Uwch

Blwyddyn graddio: 2016

Bywgraffiad Byr

Graddiodd y soprano Gymreig Jessica Robinson o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda rhagoriaeth mewn MA Perfformio Opera. Yn ystod ei chyfnod yn y coleg, enillodd Jessica radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf ynghyd â Gwobr Goffa Aneurin Davies, Gwobr Mansel Thomas, Gwobr Margaret Tann, Gwobr Elias i Soprano, ac ysgoloriaeth fawreddog Tywysog Cymru yn 2016.

Fel unawdydd oratorio a chyngerdd, mae Jessica yn perfformio’n rheolaidd ledled y DU fel artist gwadd gyda nifer o gorau meibion enwog. Yn rhyngwladol, mae wedi perfformio yn Efrog Newydd, Tsieina, y Swistir a’r Eidal. Ymhlith uchafbwyntiau ei gyrfa mae perfformio Serenade to Music gan Vaughan Williams gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham ar gyfer BBC Radio 3, ymddangos fel unawdydd yn y Royal Albert Hall yng Ngala 1000 o Leisiau Meibion, canu’r unawdau soprano ym Messiah Handel yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a pherfformio ar gyfer y Brenin Charles a’i westeion ym Mhalas Buckingham.

Ym mis Mehefin 2023, cynrychiolodd Cymru yng nghystadleuaeth fawreddogCanwr y Byd Caerdydd. Drwy ennill ei rownd sicrhaodd ei lle yn y rownd derfynol - camp nad oedd Cymru wedi’i chyflawni ers 27 mlynedd, a’r tro cyntaf erioed i fenyw o Gymru gyrraedd y rownd derfynol.

Mae Jessica wedi perfformio gyda nifer o gwmnïau opera ledled y DU gan gynnwys Opera Longborough, Opera Grange Park ac Opera Cenedlaethol Cymru, gyda’r cwmni hwnnw mae hi’n teithio ar hyn o bryd.

Yn fwyaf diweddar, perfformiodd Jessica mewn darllediad byw o Friday Night is Music Night ar BBC Radio 3, ac mae ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ryddhau ei halbwm cyntaf yn ddiweddarach eleni.

Proffiliau myfyrwyr eraill