
Celia Favorite
2022
Blwyddyn graddio:

Astudiodd y soprano o Loegr Eleanor Woods ei gradd Meistr mewn Cerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan raddio gyda Rhagoriaeth yn 2024. Yn ystod y flwyddyn ganlynol gweithiodd Eleanor gyda cherddorion o amgylch Swydd Warwick, gan gynnwys fel unawdydd yn Eglwys Santes Fair yn Warwick, a pherfformiodd ddatganiadau yn yr ardal.
Mae ei pherfformiadau diweddar yn cynnwys chwarae rhan Micaela (Carmen) gyda Chymdeithas Opera Rhydychen, a pherfformio fel cystadleuydd terfynol yng Nghystadleuaeth Gala Opera Swydd Hertford.
Cefnogir astudiaethau Eleanor yn CBCDC yn hael gan Help Musicians, Ysgoloriaeth Celfyddydau Leverhulme, ac Ysgoloriaeth Côr Meibion Parc yr Arfau Caerdydd.