
Ble a beth wnaethoch chi cyn dechrau ar y cwrs MMus?
Astudiais yn Adran Iau Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd, Ysgol Hammond ac Ysgol Gerddoriaeth Chetham cyn mynychu Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer fy nghyrsiau gradd ac ôl-radd mewn astudiaethau Llais ac Opera.
Pam wnaethoch chi ddewis astudio’r cwrs MMus yn CBCDC?
Dewisais ddilyn fy nghwrs gradd Meistr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru oherwydd ei fod yn rhoi’r rhyddid i mi ddewis fy modiwlau fy hun a theilwra’r cwrs i weddu orau i fy nodau o ran gyrfa. Yn fy marn i, mae’n un o’r rhaglenni gorau yn y wlad. Hefyd, mae Caerdydd yn ddinas hardd i fyw ynddi ac mae’r bobl, yn y Coleg a thu hwnt, mor gyfeillgar a chroesawgar!
Sut wnaethoch chi deilwra’ch profiad i gyd-fynd orau â’ch dyheadau/nodau gyrfa/cynlluniau ar gyfer y dyfodol?
Ym mlwyddyn gyntaf fy astudiaethau gradd Meistr trafodais gyda’m tiwtoriaid fy niddordeb mewn sicrhau gyrfa ym maes Rheolaeth yn y Celfyddydau. Gwnaethant fy helpu i ddewis modiwlau a fyddai’n cefnogi’r nod hwn orau a darparu cysylltiadau gwerthfawr o fewn y diwydiant i ddechrau adeiladu fy rhwydwaith. Yn fy ail flwyddyn dilynais y cwrs Rheoli Gyrfa dan arweiniad Karen Pimbley lle dysgais am gyllid, gwahanol yrfaoedd yn sector y celfyddydau a heriau cyfredol y diwydiant.
A fu unrhyw adegau nodedig yn ystod eich cyfnod ar y cwrs?
Mae gen i lawer o uchafbwyntiau cofiadwy o’m cyfnod yn CBCDC. Dau brofiad sy’n aros yn glir yn y cof yw fy interniaeth gyda’r Forget Me Not Chorus fel rhan o’m modiwl Sgiliau Allgymorth, a gyfoethogodd fy sgiliau arweinyddiaeth a’m hyder yn sylweddol, a datblygiad fy asiantaeth gerddoriaeth fach fy hun yn fy ail flwyddyn. Roedd y fenter hon yn hanfodol i fireinio fy sgiliau a’m paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant. Trwy rwydweithio helaeth, cefais y cyfle i ddarparu adloniant cerddorol i dîm Rygbi Ffrainc yn ystod y gemau Rhyngwladol yng Nghaerdydd.
Sut wnaeth y cwrs eich helpu yn eich llwybr gyrfa ar ôl graddio?
Rwy’n teimlo i mi fod yn hynod o ffodus i gael swydd dan hyfforddiant yn syth wedi graddio yn Intermusica Artists’ Management yn Llundain. Wedi dim ond tri mis yn y rôl gwnaed fy swydd yn un barhaol, ac rwyf bellach yn gweithio fel Rheolwr Artistiaid Cynorthwyol. Rydw i wrth fy modd yn fy ngwaith ym maes rheoli artistiaid, yn cydweithio’n agos ag artistiaid o fri rhyngwladol a hyrwyddwyr opera a chyngherddau ledled y byd i sicrhau bod y digwyddiadau’n rhedeg mor esmwyth â phosibl.
I bwy fyddech chi’n argymell y cwrs hwn?
Byddwn yn argymell y cwrs hwn i rywun sydd nid yn unig am ddatblygu eu sgiliau fel perfformiwr, ond fel gweithiwr proffesiynol cyffredinol yn y diwydiant sydd am ddatblygu eu sgiliau allgymorth, sgiliau rheoli gyrfa a gwybodaeth gyffredinol am y diwydiant.
Darganfod mwy am astudio MMus Perfformio Cerddoriaeth

MMus Perfformio Cerddoriaeth

MMus Perfformio Opera

Maestro Carlo Rizzi yn dychwelyd i arwain Opera Gwanwyn CBCDC
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy