Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

James Lea

Rôl y swydd: Uwch Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth; Uwch Ddarlithydd mewn Ymchwil ac Arloesi

Adran: Cerddoriaeth

Bywgraffiad

Mae James Lea yn Uwch Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth ac yn Uwch Ddarlithydd mewn Ymchwil ac Arloesi. Cafodd radd ddoethurol mewn perfformio ar y piano gan Brifysgol Illinois yn Urbana-Champaign, a gradd meistr mewn cerddoleg gan Brifysgol Gogledd Carolina yn Chapel Hill. Roedd ei ymchwil ar gyfer y ddwy radd yn canolbwyntio ar estheteg. Ynghyd â’r ethnogerddoregwr, Thomas Turino, golygodd Identity and the Arts in Diaspora Communities, llyfr yn archwilio’r rolau hanfodol y mae artistiaid mewn cymdeithas yn eu chwarae, maes y mae’n parhau i’w archwilio yn ei ymchwil gyfredol. Mae wedi perfformio ar ei ben ei hun ac wedi darlithio ledled yr Unol Daleithiau a’r DU. Yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae’n darlithio ar y cerddor mewn cymdeithas, hanes cerddoriaeth, dadansoddi ac estheteg, ac mae’n gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Coleg i fwrw ymlaen â’i ymrwymiad i ymchwil. Mae’n Gymrawd gyda’r Academi Addysg Uwch.

E-bostiwch James

Gallwch gysylltu ag James drwy e-bostio

james.lea@rwcmd.ac.uk

Proffiliau staff eraill