Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn datgelu cyfnod preswyl arloesol ar gyfer dau bedwarawd llinynnol sydd wedi ennill gwobrau
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, (gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Gerddoriaeth Albert ac Eugenie Frost, gyda chyllid ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston) wedi lansio cyfnod preswyl beiddgar a thrawsnewidiol sy’n para dwy flynedd, ar gyfer pedwarawd llinynnol. Mae'r rhaglen arloesol hon yn rhoi lle canolog yng nghymuned fywiog y Coleg i ddau bedwarawd llinynnol o safon ryngwladol, yn y gobaith o ddylanwadu ar ddyfodol cerddoriaeth linynnol yng Nghymru, a’r tu hwnt.