Neidio i’r prif gynnwys

Safonau'r Gymraeg

Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gydymffurfio â Safonau newydd y Gymraeg.

Mae Safonau’r Gymraeg yn gyfres o ofynion cyfreithiol sy’n ceisio gwella’r gwasanaethau dwyieithog y gall unigolion ddisgwyl eu derbyn gan gyrff cyhoeddus a sefydliadau gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae’r Safonau’n rhestru cyfrifoldebau’r Coleg wrth ddarparu’r gwasanaethau hyn, gan sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Daeth y Safonau ar gyfer y Coleg i rym ar 1 Ebrill 2018.


Archwilio’r adran