Neidio i’r prif gynnwys

Priodasau

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi’i leoli ar dir Castell Caerdydd, sy’n ffinio ag un o barciau mwyaf a phrydferthaf y DU. Mae’n safle delfrydol i chi a’ch gwesteion.

Treuliwch eich diwrnod arbennig gyda ni


Mae ein dau leoliad unigryw ymysg y rhai mwyaf poblogaidd yng Nghaerdydd ar gyfer eich diwrnod arbennig.

Y cyntaf yw stablau gwreiddiol a thrawiadol Castell Caerdydd, gyda chwrt hanesyddol a mynedfa ar hyd rhodfa goediog hardd gyda golygfeydd o’r castell.

Yr ail yw’n atriwm wydr gyfoes drawiadol a’n teras awyr-agored sy’n edrych allan dros y parc – cefndir bendigedig ar gyfer eich lluniau a’ch derbyniad siampên. Mae hefyd yn lleoliad trawiadol ar gyfer eich brecwast priodas a’ch dathliadau min nos. Mae’r atriwm wedyn yn arwain i neuadd gyngerdd a theatr ryfeddol – perffaith ar gyfer seremoni ddramatig a gwahanol!

Canolfan Anthony Hopkins

Mae’r adeilad trawiadol wedi’i leoli yn stablau gwreiddiol Castell Caerdydd, gyda chwrt agored a rhodfa goediog atyniadol yn cynnig mynedfa i chi a’ch gwesteion trwy Barc Bute, gyda golygfeydd o’r castell. Gallwch gyrraedd yno mewn sawl ffordd wahanol, gan gynnwys mewn ceir priodas traddodiadol, ceffyl a chart, a gan fod y parc ar lan yr afon sy’n llifo i Fae Caerdydd, mae hyd yn oed yn bosibl i chi gyrraedd mewn tacsi dŵr.

Fel un o barciau prydferthaf y DU, cewch hefyd gynnig cefndir bendigedig ar gyfer eich lluniau.

Mae canolfan hynod drawiadol Anthony Hopkins wedi ei henwi ar ôl yr actor, a fu’n astudio yn y Coleg yn y 1960au. Mae’r ganolfan yma’n gartref i ddwy ystafell seremoni wych iawn.

Gall Oriel Weston ddal 80 o westeion, tra bod Ystafell Ddatganiad Corus, gyda’i grisiau tro unigryw a hardd, yn berffaith ar gyfer seremonïau llai, gyda hyd at 60 o westeion. Gall y lleoliadau yma hefyd gynnal eich derbyniad diodydd, gyda brecwast priodas ar gyfer hyd at 50 o westeion i ddilyn yn Oriel Weston, neu beth am wahodd eich gwesteion i sipian siampên yn ein cwrt awyr agored? Gallwch hefyd gael dau gi ar y cwrt gyda chi yn eich derbyniad diodydd.

Neuaddau cyngerdd a theatrau o’r radd flaenaf

Ar gyfer priodasau mwy, gall ein neuadd gyngerdd a’n theatrau digymar gynnig lleoliad gwirioneddol fendigedig ar gyfer seremoni briodasol wahanol a dramatig.

Mae ein hatriwm wydr gyfoes drawiadol a’n teras awyr-agored, sydd hefyd yn edrych allan dros barcdir rhestredig Gradd I Parc Bute, yn cynnig lleoliad gwirioneddol fendigedig ar gyfer derbyniad diodydd a brecwast priodas ffurfiol ar gyfer hyd at 200 o westeion.

Gallwn hefyd gynnal digwyddiadau bendithio ar gyfer hyd at 120 o westeion yn ein Cyntedd Atriwm hardd, â Pharc Bute yn gefnlen syfrdanol i'ch seremoni.

Ar gyfer eich dathliadau min nos, mae lle i 300 o westeion gyda bar trwyddedig, llawr dawnsio ar gyfer bandiau byw, DJ neu gerddorion ac ystafell gotiau. Gellir addurno’n bont unigryw gyda goleuadau lliwgar i greu mynedfa drawiadol ar gyfer eich dawns gyntaf fel pâr priod.

Ar y cyd, mae’r lleoliadau yma’n unigryw ac ymysg y rhai mwyaf poblogaidd yng Nghaerdydd.

Eich diwrnod chi

Fel lleoliad creadigol, rydym yn cynnig llawer o hyblygrwydd fel bod eich seremoni, derbyniad diodydd, brecwast priodas a dathliadau min nos yn cyd-fynd â’ch steil a’ch personoliaethau – o’r traddodiadol i’r theatrig, o’r cain i’r cellweirus. Gallwn eich cynorthwyo i drefnu seremoni theatrig ar lwyfan, taith briodas dydd o haf trwy’r parc, derbyniad gyda chorau, telynorion, triawdau jazz a phedwarawdau llinynnol, a goleuadau a chefndir arbennig ar gyfer eich parti nos.

Argaeledd

Mae ein lleoliadau priodas ar gael drwy gydol mis Ebrill, o fis Gorffennaf i fis Medi, yn ogystal â mis Rhagfyr. Rydym yn cynnig eu llogi am ddiwrnod cyfan o ddydd Gwener i ddydd Sul, ac i gyplau sy'n chwilio am leoliad ar gyfer priodas neu ddathliad bach, rydym yn cynnig llogi am hanner diwrnod o ddydd Llun i ddydd Iau.

Beth mae ein cyplau yn ei ddweud

'Roeddem wrth ein bodd ac ni allwn fod yn hapusach ein bod wedi dewis y coleg ar gyfer ein diwrnod arbennig.'
Bethan a Max
'Diolch am wneud i'r diwrnod arbennig hwn redeg mor esmwyth. Roedd y bwyd yn wych a chafodd pawb amser gwych! Diolch yn fawr!'
Romy a Jason

Arlwyo

Mae ein cogyddion mewnol wedi creu amrywiaeth eang o fwydlenni i ddewis ohonynt, i'ch helpu i greu bwydlen diwrnod eich priodas – o wleddoedd bwyta soffistigedig i wleddoedd anffurfiol a hwylus a’r rhain yn addas i bob chwaeth a chyllideb. Mae ein cogyddion yn gweithio gyda chynhyrchwyr lleol a chyflenwyr Masnach Deg i ychwanegu blas Cymreig unigryw i’ch diwrnod a lleihau ein hôl troed carbon.

Ar gyfer eich derbyniad gyda'r nos, gallwn ychwanegu eich coctel diwrnod priodas neu eich hoff ddiod at ein rhestr gwinoedd. Gallwn ychwanegu eich coctel diwrnod priodas eich hun neu eich hoff deip o win at ein rhestr ni. Fel arall, gallwch chi ddarparu’ch gwin neu ffiz eich hunan ac mae ein ffi ‘corkage’ yn cynnwys staff gweini, llogi gwydr a glanhau.

Costau llogi

Mae archebu ein lleoliadau yn cynnwys llogi gwasanaeth Rheolwr Priodas ymroddedig a phrofiadol iawn i’ch helpu i gynllunio’ch priodas ddelfrydol i gyd-fynd â’ch cyllideb. Rydym yn codi tâl am ein lleoliadau ar sail diwrnod llawn neu hanner diwrnod, ac mae hyn yn cynnwys yr holl leoedd rydych chi eisiau ar gyfer eich seremoni, derbyniad a dathliadau min nos. Mae’r cyfnod llogi yn dechrau gyda’r paratoi a’r addurno, gosod byrddau a chadeiriau a gweithio gyda chyflenwyr y blodau a’r gacen.

Mae'r llogi'n cynnwys bar, staff a'r holl fyrddau a chadeiriau. Mae’r prisiau arlwyo a ddyfynnir yn cynnwys yr holl staff gweini, llestri, cyllyll a ffyrc, gwydrau, llieiniau bwrdd lliain gwyn a napcynau.

Hefyd, ar gyfer priodas wedi'i theilwra ar eich cyfer chi, gallwn gynnig cyfleoedd creadigol amrywiol i wneud y diwrnod mor unigryw â chi, ynghyd â defnydd am ddim o'n îsls arlunwyr a standiau rhifau crôm.

Llety

Mae ein lleoliad mewn parc prydferth dafliad carreg o ganol prifddinas Caerdydd, gyda’i westai moethus, gwestai bwtîc annibynnol a gwestai pris rhesymol.

Gellir trefnu llety dros nos yng ngwestai a thai llety’r brifddinas ar gyfer dros 150 o westeion am gyfraddau cystadleuol iawn drwy Swyddfa Cynadledda Caerdydd. Cysylltwch â Faye Tanner ar hello@meetincardiff.com neu 029 2087 1846.


Archwilio’r adran